Clarinet ar Ddawns

Mae’r ychydig fisoedd diwethaf wedi bod yn hynod brysur, ac rwyf wedi bod yn ymrafael â fy ngwaith âg Ensemble Cymru i’r eithaf. Hyd yn hyn, rwyf wedi bod yn rhan o dorraeth o gyngherddau, arwain nifer o weithdai addysgiadol, ac wrth gwrs, chwarae llwyth o gerddoriaeth newydd!

Haf diwethaf, roeddwn yn ffodus i dderbyn grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i greu prosiect newydd.  Un o brif amcanion y prosiect oedd i weithio gyda dawnsiwr, cyfansoddwr ac Ensemble Cymru i greu a pherfformio gwaith newydd. I gydfynd â hynny penderfynais ddysgu a pherfformio’r gwaith Der Kleine Harlekin, a gyfansoddwyd gan y diweddar Karlheinz Stockhausen. Camau cyntaf y prosiect oedd penderfynu pwy i weithio gyda – nid oedd hwnnw’n benderfyniad anodd. Rwyf wedi edmygu Chris Painter fel cyfansoddwr ers blynyddoedd, ac roeddwn yn awyddus iddo fo gyfansoddi’r gwaith newydd. O ran dewis dawnsiwr/dawnswraig, pendrefynais ofyn wrth Rosalind Haf Brooks fel canlyniad i weld y gwaith ardderchog y mae hi’n ei wneud gyda’r cwmni dawns, Earthfall. Y cam nesaf oedd cael Rosalind a Chris i gytuno i weithio gyda fi!!!

Fy nghyfarwyddiadau i Chris oedd i gyfansoddi gwaith ar gyfer clarinetydd unigol a dawnswraig, mewn nifer o symudiadau. Roeddwn yn awyddus i’r gwaith fod ddigon hyblyg i’w gael ei berfformio fel deuawd yn ogystal â chan glarinetydd ar ei ben/ei phen ei hun. Roeddwn hefyd yn awyddus i’r symudiadau unigol fedru cael eu perfformio ar eu pen eu hunain yn ogystal â chael eu perfformio fel rhan o’r cyfanwaith. Ar ôl cryn drafod, penderfynom seilio’r gwaith ar elfen o’rMabinogi, a dyna ddechrau Hanes Taliesin.

Hanes Taliesin

Roedd gan Ceridwen a’i gŵr Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, Creirwy, yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai’n rhoi “awen a gwybodaeth” iddo i wneud iawn am hynny. Bu’n berwi cymysgedd yn y pair am flwyddyn a diwrnod, gyda’r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen ŵr dall o’r enw Morda yn cadw’r tân dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair. Pan oedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri dafn o’r pair ar law Gwion Bach, a chan eu bod mor boeth, fe’i rhoes yn ei geg. Sylweddolodd Ceridwen ar unwaith ei fod ef wedi ei gynysgaeddu â’r awen yn lle ei mab, a dechreuodd ei ymlid. Newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn ysgyfarnog, ond newidiodd Ceridwen ei hyn yn filiast i’w ymlid. Yna trodd Gwion yn bysgodyn, a Ceridwen yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a throdd Ceridwen yn walch i’w ymlid; yna pan oedd y gwalch bron a’i ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith. Trodd ei hun yn ronyn gwenith ynghanol y pentwr, ond trodd Ceridwen ei hun yn iar a’i fwyta. Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a’i daflu i’r môr. Fe wnaeth dyn or enw Elffin ddarganfod y baban yn y cwdyn. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was “Llyma dal iesin” (‘Dyma dalcen teg’).

Tra’r oedd Chris yn cyfansoddi, cefais gyfle i gwrdd â Rosalind, a chychwyn ymarfer Der Kleine Harlekin – gwaith ar gyfer clarinetydd unigol sy’n chwarae rol harlecwin. Ar gyfer perfformio’r gwaith hwn, nid yw chwarae clarinet yn unig yn ddigonol! Mae’n ofynnol i mi symud, creu ystumiau, creu effeithiau taro gyda fy nhraed a…..gwisgo i fyny! Cawsom hwyl yn ymarfer, ac roedd Rosalind o help mawr. Roedd ganddi dipyn o waith i’w gyflawni o ystyried nad wyf i’n edrych nag yn symud fel dawnswraig!

Chwarae clarinet ar un goes…gofyn am drwbwl!

Tra’r oedd hyn i gyd yn digwydd, roedd Chris yn brysur yn cyfansoddi, ac erbyn diwedd yr Haf derbyniais ddrafft cyntaf Hanes Taliesin! Dechreuais ymarfer yn syth, gan ganolbwyntio ar y symudiad cyntaf – Pair Dadeni. Y symudiad yma, ynghyd â Der Kleine Harlekin oedd fy rhaglen ar gyfer fy nhaith gyntaf yn cynrychioli Llysgenad Cerddoriaeth Newydd Ensemble Cymru ym mis Hydref. Fe wnaethom berfformio cyngherddau hyd a lled Gogledd Cymru, a chawsom amser gwych. Canolbwynt gwaith yr ychydig fisoedd canlynol oedd cymysgedd o ymarfer ac arwain cyfresi o weithdai addysgiadol i Ensemble Cymru – a hynny gyda chriw o bobl ifanc arbennig iawn. Fe wnaf greu blog ar wahân i hwn i son am y gwaith hwnnw. Mae’r rheini oedd yn rhan o’r gwaith yn haeddu tudalen gyfan i’w hunain!

Ar ôl y Nadolig treuliais wythnos yng Nghaerdydd yn ymarfer Hanes Taliesin gyda Rosalind. Roeddwn wedi creu recordiad o’r gwaith iddi ychydig fisoedd ynghynt, er mwyn iddi gael cyfle i feddwl am y symudiadau. Roedd yr ymarferion yn gynhyrchiol iawn, ac roedd gan Rosalind syniadau gwych. Mae’r gerddoriaeth yn cydfynd â dawns i’r dim.

Ar ôl dychwelyd o Gaerdydd, rhaid oedd i mi ddechrau paratoi ar gyfer ail daith Ensemble Cymru ym mis Chwefror. Treuliais yr amser yn canolbwyntio ar ail symudiad Hanes Taliesin – Gwion yn Hedfan a Genedigaeth Taliesin, ac ar waith Paul Mealor ar gyfer clarinet unigol ‘Solemn Liturgy’. Cafodd y gwaith ei gyfansoddi yn 2006 ar gyfer fy nghyn athro Ian Mitchell. Cefais y fraint o gael perfformio’r gwaith i’r cyfansoddwr ym mis Medi 2011, fel canlyniad i gael gwahoddiad gan Wyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru i berfformio mewn gweithdy cerddoriaeth fodern. Roedd Paul yn gadarnhaol iawn, a oedd yn ryddhad mawr! Nawr fod cyngherddau mis Chwefror drosodd, mae’n bryd i mi ganolbwyntio ar brif ddigwyddiad y flwyddyn – Taith Genedlaethol Ensemble Cymru, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr! Bydd Rosalind yn ymuno â mi i berfformio’r Painter a’r Stockhausen, ac mi fydda innau’n ymuno âg Ensemble Cymru am ran o’u rhaglen. Roeddwn yn Llundain ychydig wythnosau yn ôl yn ymarfer gyda’r Ensemble, a oedd yn brofiad gwych. Er fy mod wrth fy modd yn perfformio gweithiau unigol ar gyfer y clarinet, rwy’n hynod o gyffrous o gael y cael y cyfle i rannu’r llwyfan â Rosalind ag Ensemble Cymru – mae perfformio ar ben fy hun o hyd weithiau’n mynd yn unig! Rwy’n gobeithio’n fawr cael cwrdd a llawer ohonoch ym misoedd Mawrth ag Ebrill!

Hwyl am y tro!

Sioned