Mae 17 o wahanol offerynnau yn cael eu defnyddio yn rhaglen taith genedlaethol Ensemble Cymru (Mawrth – Ebrill 2012); mae’r gwaith hwn, a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer yr achlysur, yn defnyddio 16 ohonyn nhw gyda’i gilydd.
Wrth chwilio am thema, mi ddaeth i’r amlwg bod lleoliadau’r daith yn gysylltiedig â gwahanol fathau o ddŵr naturiol – Afon Wysg ger Casnewydd, Môr Iwerddon ger Rhosygilwen a Ffynnon Tudno yn Llandudno. O ychwanegu llyn, dyna’r pedwar prif fath o ddwr byw yng Nghymru. Gan bod dŵr yn rhan hanfodol o chwedloniaeth Gymreig, penderfynais seilio symudiadau’r gwaith yma ar chwedlau’n gysylltiedig â lleoliadiadau’r daith, gan ddewis Llyn Syfaddan ym Mrycheiniog fel y pedwerydd.
Dywedodd Gerallt Gymro bod adar y llyn hwnnw yn trydar petai gwir arweinydd y tir, a neb arall, yn eu gorchymyn nhw i wneud.
Un o’r nifer o ffynhonnau ar Ben y Gogarth, uwchlaw Llandudno, mae Ffynnon Tudno, y sant sy’n rhoi ei enw i’r dref, a sy’n cael ei gysylltu â chalan hogi fyddai ond yn rhoi min ar arfau gwŷr dewr.
Mae Afon Wysg yn gysylltiedig â hanes ryfedd am y Brenin Arthur, Sant Cadog, a chant o wartheg y newidiwyd eu lliwiau drwy wyrth a’u troi wedyn yn frwyn yn yr afon. Hanes Clychau Cantre’r Gwaelod yw’r chwedl gyfarwydd am foddi ardal eang o lannau Bae Aberteifi gan y môr drwy esgeulustod y gwyliwr meddw Seithenyn, a hynny yn ystod gwledd a chyfeddach wyllt – yn ôl y sôn, gellir clywed y clychau’n canu dan y dŵr pan mae’r môr yn dawel.
©Gareth Glyn- 2012
Supported by
National Lottery
Arts Council of Wales
Welsh Government