Gweithio gydag Ensemble Cymru, gan y cyfansoddwr, Gareth Glyn

Rydw i wedi cael fy newis fel cyfansoddwr ar sawl achlysur ers blynyddoedd gan Ensemble Cymru –  mudiad sy’n gwneud mwy na neb arall, dybiwn i, i godi ymwybyddiaeth o gerddoriaeth siambr yng Nghymru – felly roeddwn i wrth fy modd yn cael fy newis i gyfansoddi darn ar gyfer eu Taith Genedlaethol gynta nhw.

Mi roddodd Peryn Clement-Evans y hawl i mi ddewis pa gyfuniad o offerynnau yr hoffwn sgwennu iddyn nhw, o’r cyfanswm o 17 fyddai’n cymryd rhan – ond roedd hyn braidd fel rhoi plentyn mewn siop deganau a dweud y câi o gynifer ag a fynnai o ohonyn nhw am ddim, felly mi ddwedais yr hoffwn sgwennu darn ar gyfer 16 ohonyn nhw.  Y llall, gyda llaw, oedd y piano, a dydw i erioed wedi bod yn dda iawn am sgwennu i biano. Pa run bynnag, roedd y cyfuniad oedd ar ôl yn un anarferol tu hwnt – wedi’r cwbwl, dyma oedd yr offerynnau yr oedd eu hangen, mewn gwahanol niferoedd a chyfuniadau, i berfformio darnau eraill y rhaglen, felly roedd na dri chorn ond dim ond un utgorn, dau obo ond dim ond un ffliwt ac yn y blaen.  Felly mi fedrwn honni’n weddol hyderus mai dyma’r unig ddarn ar gyfer yr union 16 offeryn hyn sy’n bod! Roedd gan Peryn syniad ardderchog ar gyfer thema i’r gwaith. Dydy o ddim yn gorfodi, dim ond awgrymu, ond roedd hwn yn awgrym ysbrydoledig – sef seilio’r gwahanol symudiadau ar leoliadau y gwahanol gyngherddau, ac yn benodol y ffaith eu bod nhw i gyd yn ymyl dŵr o ryw fath – llyn, afon, môr neu beth bynnag. Cam byr a hawdd o hynny oedd penderfynu seilio’r symudiadau ar chwedlau o Gymru oedd â chysylltiad â’r ‘dyfroedd byw’ rheini, ac mi fedrwch chi ddarllen mwy mewn rhan arall o’r wefan yma sut yr es i wrthi i gyflawni hyn. Ar ôl gorffen y gwaith cyfansoddi (ac mae’n rhaid i mi ddweud mod i, am ryw gyfnod, wedi dioddef yr aflwydd ofnadwy hwnnw ‘bloc y cyfansoddwr’, oedd yn golygu nad oedd unrhyw syniadau yn dod i’r meddwl, ond diflannu wnaeth hwnnw, diolch i’r drefn), a danfon y gerddoriaeth i’r offerynnwyr, y cam nesa oedd bod yn bresennol yn yr ymarfer llawn cynta, i sicrhau nad oedd na anawsterau gyda’r gerddoriaeth, ac i gynnig ambell awgrym o ran tempo, dehongliad ac ati.  Roedd hwn i ddigwydd yng Nghanolfan Amadeus yn Llundain (mae na luniau, a fideo,  o’r rihyrsal mewn rhan arall o’r wefan hon), a roeddwn i’n edrych ymlaen at y daith bleserus, ymlaciedig, yr holl ffordd o Fangor i Lundain mewn trên, taith o ryw deirawr. Ond… ar yr union ddiwrnod hwnnw, 3 Chwefror 2012, dewisodd injan trên nwyddau ddod oddiar y cledrau yn Bletchley, gan achosi’r dagfa waetha ar y rhwydwaith rheilffyrdd ers blynyddoedd – dim trenau yn cyrraedd Euston o gyferiad Milton Keynes, cannoedd o filoedd o deithwyr yn tyrru ac yn heidio i ddal unrhyw drên a allai fynd â nhw y nes at eu cyrchfan.  Erbyn hyn dydw i ddim yn cofio sawl trên y es i arnyn nhw, o orsafoedd nad oedd erioed o’r blaen wedi bod yn rhan o daith i Lundain – dim ond mod i wedi cael fy ngwasgu ar fy sefyll ynghanol cannoedd o bobol mewn trên ‘Chilterns’ am awr a hanner o daith i orsaf Marylebone. Wn i ddim sut ar wyneb y ddaear y cyrhaeddais yr ymarfer o gwbwl – ond, diolch byth, newydd ddechrau mynd drwy’r darn oedden nhw, yn darllen y gerddoriaeth ar yr olwg gynta ac eisoes yn swnio’n drawiadol iawn. Wrth sgwennu’r darn, doeddwn i ddim yn gwybod sut y byddai’r ensemble yn cael eu gosod ar lwyfan – wedi’r cyfan, mae 16 o offerynnwyr yn agos at fod yn gerddorfa fach, a fydde na ddim lle iddyn nhw i gyd mewn hanner cylch, fel y byddai ar gyfer darn i, dyweder, chwechawd. Ond roedd Ensemble Cymru wedi dyfeisio dull effeithiol iawn o wneud hyn, sef bod y mwyafrif yn sefyll, oedd yn golygu y bydden nhw i gyd yn cael eu gweld a’u clywed yn iawn. Fy unig gamgymeriad yn hyn o beth oedd fy mod i wedi rhoi nodau bach yr offerynnau eraill (y “cues”) yn rhan yr utgorn – a roedd o’n sefyll yn y cefn! – felly fyddai’r lleill ddim wedi medru ei weld o’n ‘arwain’. Mi ddylwn nodi yn y fan hyn bod Ensemble Cymru yn gweithredu heb arweinydd ar bob achlysur, sy’n golygu bod yn rhaid i bawb wybod be mae pob aelod yn ei wneud, a saernio’u perfformiad ar gydweithio llwyr – ac mae angen cryn brofiad a hyder i wneud hyn. Mi aeth yr ymarfer yn dda – yr unig bynciau trafod o bwys oedd cyflymder, neu dempo, ambell adran, a buan y cytunwyd ar hynny. Roedd offerynnwr gwadd arbennig yr ensemble, yr Artist Cyswllt Paul Watkins, yn bresennol, a roedd o’n canmol y darn, sy’n beth braf! Cyn bo hir mi fydd yr ensemble yn cyfarfod eto i ymarfer y gwaith unwaith eto a’i berfformio gynta yng Nghasnewydd.  Dwi’n bwriadu bod yn bresennol, a beth bynnag fydd ymateb y gynulleidfa i’r gwaith, mi fedra i ddweud yn hyderus na fyddai modd cael criw mor ymroddedig, talentog – a chyfeillgar – i berfformio’r darn.