Mae Taith Harlecwin/Dyfroedd Byw yn nesau

Yr hanes hyd yn hyn….yn fyr…..

Roedd ddoe yn ddiwrnod prysur. Teithiais i Gaerdydd i berfformio mewn cyngerdd amser cinio gyda Peryn a Harvey, yn Eglwys RHiwbina. Roedd hi’n braf gweld cymaint yn y gynulleidfa – ac rwy’n gobeithio’n fawr gweld rhai ohonynt dros y penwythnos.

Chwaraeodd Peryn a Harvey nifer o weithiau – rhai adnabyddus, a rhai mwy anghyffredin – ond rhybeth at ddant bawb. Fe wnes i ymuno a nhw i berfformio Il Convengno gan Ponchielli….dipyn o hwyl Eidalaidd ar gyfer dau glarinet a phiano! Dychwelais adre i’r Gogledd i ddathlu Camlwyddiant geni fy nhaid, y bardd Griffith John Roberts gyda plant ysgol Chwilog. Brodor o Eifionydd oedd Taid ac roedd o’n ddisgybl yn ysgol Chwilog. Fe roddodd y plant sioe arbennig i ni. Diolch i’r plant, yr athrawon ac i Twm Morus am eu gwaith caled. Yfory, mi fyddaf yn dychwelyd i Dde Cymru. Byddaf yn dal y tren buan i Gasnewydd, ac yno’n cayfarfod efo Rosalind am ymarfer. Wedyn byddaf yn ymarfer repertoire y prif gyngerdd gydag Ensemble Cymru yn barod at y noson fawr. Mae’r wythnos diwethaf wedi bod yn hynodbrysur….ymarfer a pharatoi…gan gynnwys paratoi gwisgoedd!

Am weld mwy….dewch i’n gweld dros y penwythnos!