Y Triawd Cyrs

Y Triawd Cyrs

Enw i gyfuniad obo clarinet a baswn yw Trio d’Anche neu Triawd Cyrs.  Fel mae’r enw yn ei awgrymu mae’r offerynnau ei gyd yn defnyddio corsen neu gyrs i greu’r sain.  Cafodd ran fwyaf o’r gerddoriaeth ar gyfer y Triawd Cyrs ei chyfansoddi yn Ffrainc yn yr ugeinfed canrif gan gyfansoddwyr megis Milhaud, Francaix, Auric ac Ibert.

Cyrs

Yn anffodus dydy cyrs byth yn gweithio yn yr un modd o gyngerdd i gyngerdd.  Cyrs yw sail pryder mwyaf mewn unrhyw gyngerdd i chwaraewr offeryn cyrs.

Mae cyllell yn declyn pwysig i oböydd neu faswnydd.   Gyda chyllell arbennig gall y cerddor wneud newidiadau microsgopaidd i ddimensiynau’r cyrs er mwyn ei addasu yn sgil newidiadau yn lleithder, tymheredd, gwasgedd aer, acwsteg y neuadd ac hyd yn oed effaith ensymau ar ddeunydd y cyrs. Mae’n bwysig cofio dydy o ddim yn ddoeth o beth i wneud obowyr na baswnwyr yn flin yn ystod ymarfer (er ei fod yn hwyl i’w wneud )  🙂  

Dydy baswnwyr ddim yn ymddangos fel mae’n nhw’n poeni am eu cyrs gymaint ag obowyr – fel yr adran bas mae ymlacio yn dod yn naturiol iddyn nhw.  Mae oböwyr ar y llaw arall yn ymddangos fel eu bod nhw o hyd yn addasu neu yn cywiro eu cyrs gyda darnau o llinyn, weiren, cyllell ayb.  Gyda llaw os wyt ti erioed wedi gweld llinyn wedi’i glymu i rheiddiadur, handlen ddrws, coes fwrdd mae’n debyg mai oböydd neu baswnydd sydd wedi bod wrthi yn gweithio ar eu cyrs.            

Dydy clarinetwyr ddim yn dueddol o greu cyrs eu hunain (gormod o waith mewn gwirionedd).  O ganlyiad mae nhw, yn aml, yn gwibio trwy nifer mawr o focsys o gyrs gan daflu rhan fwyaf i’r bin ar genhadaeth i ddarganfod Y gorsen berffaith (er nad gorsen berffaith fawr o help i rywun chwarae’r nodau cywir!).  Gall rywun ddod o hyd i glarinetydd yn aml iawn trwy ddilyn trywydd o frwyn a’u cynhwysyddion plastig.

Bacteria a Chyrs!

Os wyt ti’n hoffi math yma o beth dyma erthygl gwych ar wikepedia,