Canllawiau Anfoneb i Gyflenwyr a Pherfformwyr

(Diweddariad 03-05-2016)

Bydd croeso i chi anfon anfoneb mewn ebost testun plaen (mewn ebost newydd heb unrhyw negeseuon os gweli di’n dda) fel anfoneb. Anfonwch o at cyllid ‘at’ ensemble.cymru ‘at’ = @ 

RHESTR WIRIO

  1. Eich enw busnes a chyfeiriad
  2. Dyddiad Treth / Dyddiad yr anfoneb
  3. Rhif Archeb Ensemble Cymru neu rhif ‘Engagement’ os ydych chi wedi derbyn archeb neu trefnlen oddi wrthym
  4. Rhif neu god ar gyfer yr anfoneb e.e. 1000, 1001 ayb – bydd hyn yn ddibynnol ar dy system di o gadw anfonebau
  5. Disgrifiad o’r gwasanaethau yn cynnwys dyddiadau a natur y gwaith.
  6. SYLWER: Cadwch ffioedd ac ad daliadau ar linellau ar wahan os gweli di’n dda
  7. Cyfanswm yr anfoneb
  • Defnyddiwch Gymraeg, Saesneg neu’r ddwy iaith fel y dymuwch.
  • Dylech chi ystyried cadw copi o’r anfoneb

Diolch yn fawr am eich cydweithrediad.  Bydd hyn yn helpu osgoi taliadau hwyr.