Rhwng Dydd Mercher Rhagfyr 5 a Gwener Rhagfyr 7, teithiodd Wythawd Chwyth Ensemble Cymru o gwmpas Gogledd Cymru gan berfformio darnau rhyfeddol gan gynnwys Wythawd Beethoven, Serenâd yn C leiaf Mozart, Porgy a Bess Gershwin a Wythawd Krommer. Yn ystod y 3 diwrnod, perfformiodd y cerddorion gwych’ma i bobl o bob oedran yn llawer o leoliadau gan gynnwys lleoliadau ym Mhwllheli, Cricieth, Caernarfon, Bangor, Llandudno, Bae Colwyn, Cilcain a Chaergybi gan ddod â’r gerddoriaeth hyfryd yr Wythawd Chwyth i ardaloedd Gogledd Cymru.
Ymysg yr uchafbwyntiau oedd y pleser daeth y gerddoriaeth i blant Ysgol Llanystumdwy ger Cricieth. Ar ôl y perfformiad roedd y plant yn siantio “Corn Ffrengig”! (Fel cornydd Ffrengig fy hun, roeddwn wrth fy modd! :D)
Cynulleidfa i’r cyngerdd (wedi’i werthu allan) ym mwyty Venue Cymru, Llandundo:
Croeso cynnes gan Canolfan Siopa Bay View gan gynnwys pobl yn dawnsio i’r gerddoriaeth hyd yn oed.
Y lleoliad hyfryd, yr Ucheldre yng Nghaergybi:
Ac o’r diwedd ‘Fflachiau Siambr’ yn Lolfa a Chaffi’r Teras ym Mhrifysgol Bangor:
Roedd yr Ensemble yn hyrwyddo ymgyrch y ‘Big Give’: ‘Sialens Gerddoriaeth Fawr’ er mwyn codi arian i helpu Ensemble Cymru rhannu ei gariad tuag at gerddoriaeth gyda sawl cymuned yng Ngogledd Cymru. Er mwyn darganfod mwy am hyn ac sut i roi i’r achos, dilynwch y ddolen hon os gwelwch yn dda. http://new.thebiggive.org.uk/donation/to/7031
Roeddwn i’n ffodus i allu treulio tridiau yn teithio Gogledd Cymru gydag Ensemble Cymru. Yn wir roedd yn anrhydedd i fod ymysg cerddorion godidog, cerddoriaeth wych a phobl hyfryd! 🙂
My dearest Collette, the pleasure was all ours! Wonderful to have you with us and well done on the pics etc.
Merry Christmas and have a great time in Florida over New Year.
See you in Feb.
All the best.
Pat Broderick x
Yes Collette as Patrick says, it was great to have you with us.
Have fun in the States, Happy Christmas and see you soon.
Huw xx