Mae Ensemble Cymru – sef ensemble preswyl Prifysgol Bangor a Venue Cymru – angen eich cymorth chi i gyflawni’r Sialens Gerddoriaeth Fawr, sy’n bwriadu codi arian i helpu Ensemble Cymru i rannu ei angerdd tuag at gerddoriaeth siambr â chymunedau ym mhob rhan o Ogledd Cymru mewn dulliau cyffrous ac arloesol.
Nod y Sialens Gerddoriaeth Fawr, sy’n digwydd rhwng 6ed a 19eg o Ragfyr 2012, yw codi £6,000 trwy roddion gan y cyhoedd – ac os byddwn yn llwyddiannus, gallai’r swm hwnnw gael ei ddyblu gan arian cyfatebol cyllidwyr hael gan ddod â ni yn nes at y nod o £13,000 y mae ei angen arnom er mwyn dod â cherddoriaeth siambr yn nes at gynulleidfa ehangach.
Yn 2013 bydd Ensemble Cymru yn trefnu nifer o berfformiadau, sioeau teithiol, gweithdai a digwyddiadau arloesol a chyffrous eraill a fydd o fantais i gymunedau lleol yng Ngogledd Cymru – ond mae angen inni godi £13,000 i dalu am y gweithgareddau hyn.
Mae’r Sialens Gerddoriaeth Fawr yn cychwyn gyda digwyddiad lansio yng Nghaffi’r Teras, Prifysgol Bangor ar Ddydd Mercher 5ed Rhagfyr am 6pm. Ar ôl hynny, byddwn yn postio diweddariadau yn gyson i ddangos ein cynnydd ar ein blog, ar ein cyfrif Trydar a’n tudalen Gweplyfr, gan hysbysu ein cefnogwyr faint o arian sy’n cael ei godi a sut y gall fod o gymorth.
Pam y mae Ensemble Cymru yn gwneud hyn?
Rydym yn teimlo’n angerddol ynglŷn â cherddoriaeth, ac mae’n ofid inni fod cymaint o bethau yn rhwystro pobl rhag bod yn gysylltiedig â cherddoriaeth siambr a rhag rhannu ein hangerdd ni tuag at gerddoriaeth. Mae’r rhwystrau hyn yn amrywio o ddiffyg grwpiau perfformio lleol i brinder canolfannau, gydag amrywiol rwystrau eraill yn y canol. Rydym eisiau mynd i’r afael â’r materion hyn drwy sicrhau fod llwyfan ar gael i gerddorion a chyfansoddwyr ifanc yn Venue Cymru, drwy gynnal perfformiadau mewn canolfannau fel ysbytai a hosbisau, a thrwy gynnal digwyddiadau arbennig sy’n annog pobl heb brofiad blaenorol i fod yn gysylltiedig â chyfansoddi cerddoriaeth siambr. Dyma rai yn unig o’r cynlluniau sydd gennym ar gyfer 2013; ac mae llawer o rai eraill y gallwch ddarganfod mwy amdanynt ar ein safle Big Give.
Sut allaf i helpu?
Gallwch anfon rhodd ar-lein, drwy fynd i’n tudalen Big Give a defnyddio’r system dalu ddiogel yno.
Neu, gallwch gwblhau a dychwelyd ffurflen addewidion yn ein hysbysu o’ch bwriad i gyfrannu.
Unwaith y byddwch wedi cyfrannu neu addo gwneud hynny, byddwn yn rhoi gwybod ichi sut hwyl a gawsom drwy anfon e-bost ichi ar ddiwedd yr ymgyrch. Bydd ein blog a’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn cael eu diweddaru’n gyson gyda chlipiau fideo a dangosyddion yn nodi’r cynnydd drwy gydol yr ymgyrch. A bydd pawb sydd wedi cyfrannu yn cael gwahoddiad drwy e-bost i fynychu digwyddiad lansio arbennig yn Venue Cymru yn 2013.
Pwy fydd yn elwa ar yr arian fydd yn cael ei godi?
Bydd tua 3,000 o bobl yn elwa ar yr arian fydd yn cael ei godi yn ystod ymgyrch Big Give, ac yn eu plith blant ysgolion cynradd ac uwchradd, yn cynnwys plant ag anghenion addysgol arbennig; pobl oedrannus; a phobl â phroblemau iechyd meddwl. Bydd y gymuned ehangach yn elwa hefyd, yn ogystal â chyfansoddwyr a cherddorion Cymru a fydd yn elwa ar gyfleoedd i gysylltu’n uniongyrchol â’u cynulleidfaoedd.
Sut allaf i ddarganfod mwy?
Y ffordd orau o gael gwybodaeth fanwl am y Sialens Gerddoriaeth Fawr, yn cynnwys y digwyddiadau y bwriedir eu cynnal, y gost a ragwelir ar gyfer pob digwyddiad, a’r rhai a fydd yn elwa yn sgil eich rhoddion, yw mynd i’n tudalen Big Give.
I ddarganfod mwy am hanes Ensemble Cymru, ewch i’r dudalen ‘Amdanom‘ ar ein gwefan.