Diolch i Rhys “Am hybu cerdd a chreu llawenydd…”

Bu cefnogwyr yr actor o fry Rhys Ifans; Ysgol Pentrecelyn a Mam a Tad Rhys, ynghyd â 150 o blant o ysgolion Gogledd Cymru yn wahoddedigion arbennig mewn rhagolwg o gynhyrchiad ‘Pedr a’r Blaidd’ yn yr iaith Gymraeg am y tro cyntaf, mis yma.

Ensemble Cymru , ynghyd â chwmni teledu Fflic Cyf, fu’n cynnal yr rhagolwg unigryw yn Venue Cymru Llandudno , ble mae’r ensembl yn breswyl. Roedd y perfformiad arbennig yn cynnwys cerddorfa byw o 28 o gerddorion Ensemble Cymru, darluniau gan Marc Vyvyan Jones a throslais Rhys Ifans o gyfieithiad Cymraeg Yr Athro Gwyn Thomas o’r stori Rwseg draddodiadol.

Mewn derbyniad arbennig cyn y perfformiad fe dderbyniodd Mr a Mrs Evans ffrâm coffaol ar ran eu mab fel ‘ diolch’ i Rhys am ei gyfraniad gwerthfawr i’r prosiect ;

“Byddai Rhys wedi bod wrth ei fodd bod yma ei hun heddiw, ond ‘da ni’n falch iawn i fod yma ar ei ran… allwn ni ddim aros i adrodd yr hanes wrtho! ” dywedodd Mrs Beti Evans.

Fe gydiodd y perfformiad yn nychymyg gwesteion arbennig Ysgol Pentrecelyn, lle bu Rhys yn ddisgybl a lle bu Mrs Evans ei hun yn athrawes. Roeddent wrth eu boddau i fod yn rhan o achlysur mor bwysig, dywedodd un disgybl wrthym “Roedd o’n sioe gret, roeddwn i’n hoffi POB peth” Cyfansoddwyd ‘Peter and the Wolf ‘ gan Sergei Prokofiev gyda nod tebyg iawn i fwriad Ensemble Cymru sef; i gyflwyno’r gerddorfa i blant am y tro cyntaf. Dywedodd Peryn Clement -Evans , Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, “Rydym wrth ein boddau gyda’r ymateb cadarnhaol rydym wedi’i dderbyn gan blant, rhieni a gwesteion i’n rhagolwg. Rwy’n edrych ymlaen at glywed ymatebion y plant ac ysgolion a ddaeth i’r perfformiad yr wythnos hon er mwyn i ni gynnwys eu syniadau fel rhan o daith cynhyrchiad Pedr a’r Blaidd yn 2014” Diolch i gefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru , S4C a nifer o ymddiriedolaethau y bydd y cynhyrchiad hwn yn mynd ar daith fis Mawrth 2014  gan ddod â cherddoriaeth gerddorfaol fyw i deuluoedd a phlant ar draws Cymru. Gallwch wylio’r perfformiad o ‘ Pedr a’r Blaidd ‘ Dydd Nadolig ar S4C. Am fanylion pellach ac am docynnau ar gyfer taith 2014 cysylltwch ag Ann Wyn Barker , Swyddog Marchnata Ensemble Cymru , ann@ensemblecymru.co.uk neu 01248 383 257 .