With the Pedr a’r Blaidd tour less than four weeks away we are super excited here at Ensemble Cymru! Music is currently being rehearsed by the performers, tickets are being sold and last minute arrangements are being made by the Marketing team to ensure a smooth running for the first week of March when the Ensemble Orchestra will be visiting venues across Wales with its performance of Pedr a’r Blaidd.
Kate Boucher, Marketing officer for Ensemble Cymru gives us the inside scoop of the how things are going on the promotional side of things this week.
“Our afternoon performances are proving popular with the schools and tickets are really starting to fly out which is great news! However there’s still work to be done in attracting audiences to our evening performances so we’ll be giving these some extra promotion over the coming weeks”.
She also informs me that it is well worth keeping your eyes peeled for the exclusive video trailer for the Peter and the Wolf show which will be making its appearance on the website over the coming weeks.
For those of you who are new to the performance, you are in for a treat. Pedr a’r Blaidd – or Peter and the Wolf – is a story of Russian origins of a boy Peter and his journey through the woods and the interactions of the animals along the way. Characters which are played by instruments in the story include Peter, a bird, the duck, the cat, the grandfather and the wolf.
S4C’s Dona Direida (Elain Llwyd) will be introducing the story and the Ensemble Instruments to the audience. Dona Direida is a popular children’s entertainer on S4C and is known well for her catchy rap music and wild pink dress sense.
The performance will be accompanied by the images of Marc Vyvyan Jones who has illustrated for various children’s books such as Hairy Tree Man by Andrew Wright, Eric’s Elephant by John Gatehouse and The Witches Brew and Other Poems by Wes Magee.
We are also looking forward to the delightful narration of Rhys Ifans the Welsh actor who has featured in films such as Notting Hill (1999) as Spike and more recently in The Amazing Spiderman (2012) as The Lizard and Dr. Curt Connors. Rhys has also been involved with some musical collaboration with Perth and Welsh music group Super Furry Animals.
So a very exciting line up for those of you attending. This week we want know your thoughts about the story: What does Peter and the wolf mean to you? What are you earliest memories/experiences of the story? Whether you are audience, musician or just plain interested, get in touch and give us your comments. We would love to hear what you have to say and hope you will join us in our excitement over the coming weeks.
Keep watching this space or follow our Pedr a’r Blaidd page on Facebook.
See you soon!
Milli.Gyda llai na phedair wythnos i fynd cyn y bydd Pedr a’r Blaidd yn mynd ar daith, rydym wedi cynhyrfu’n lân yma yn Ensemble Cymru! Mae’r perfformwyr yn dal wrthi’n ymarfer y gerddoriaeth, mae tocynnau’n cael eu gwerthu, a’r tîm Marchnata wrthi’n gwneud y trefniadau munud olaf er mwyn sicrhau y bydd yr wythnos gyntaf o Fawrth yn mynd yn llyfn, pryd y bydd Cerddorfa’r Ensemble yn ymweld â lleoliadau ar draws Cymru gyda’i pherfformiad o Pedr a’r Blaidd.
Mae Kate Boucher, Swyddog Marchnata Ensemble Cymru, yn rhoi’r diweddaraf inni am y gwaith hyrwyddo sy’n mynd rhagddo yr wythnos hon.
“Mae ein perfformiadau prynhawn yn profi’n boblogaidd ymysg yr ysgolion, a llawer iawn o fynd ar y tocynnau, sy’n newydd gwych! Fodd bynnag, mae gwaith i’w wneud o hyd i ddenu cynulleidfaoedd i’n perfformiadau gyda’r nos, felly byddwn yn rhoi ychydig yn fwy o gyhoeddusrwydd i’r rhain yn ystod yr wythnosau i ddod.”
Mae hefyd yn dweud wrthyf ei bod yn werth edrych allan am y rhagflas fideo unigryw ar gyfer sioe Pedr a’r Blaidd a fydd i’w weld ar y wefan yn yr wythnosau i ddod.
I’r rhai ohonoch nad ydych wedi gweld y perfformiad eto, mae gwledd o’ch blaenau. Mae Pedr a’r Blaidd yn stori Rwsiaidd am fachgen, Pedr, a’i daith trwy’r goedwig, a’r rhan a chwaraeir gan yr anifeiliaid ar hyd y ffordd. Mae cymeriadau a chwaraeir gan offerynnau yn y stori yn cynnwys Pedr, aderyn, hwyaden, cath, taid a’r blaidd.
Dona Direida (Elain Llwyd) o S4C fydd yn cyflwyno’r hanes ac Offerynnau’r Ensemble i’r gynulleidfa. Mae Dona Direida yn ddiddanwraig boblogaidd i blant ar S4C, ac yn adnabyddus iawn am ei cherddoriaeth rap afaelgar a’i dillad pinc beiddgar.
Bydd y perfformiad yn cynnwys delweddau gan Marc Vyvyan Jones, sydd wedi creu’r darluniau ar gyfer amryw o lyfrau i blant, megis Hairy Tree Man gan Andrew Wright, Eric’s Elephant gan John Gatehouse a The Witches Brew and Other Poems gan Wes Magee.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at berfformiad Rhys Ifans, yr actor o Gymru, fel adroddwr, ac yntau wedi cymryd rhan mewn ffilmiau megis Notting Hill (1999) fel Spike ac, yn fwy diweddar yn The Amazing Spiderman (2012) fel The Lizard a Dr. Curt Connors. Bu Rhys hefyd yn gyfranogol mewn rhai cydweithrediadau cerddorol yn Perth, a chyda’r grŵp pop Cymraeg y Super Furry Animals.
Felly, mae gwledd o flaen y rhai ohonoch fydd yn dod. Yr wythnos hon, rydym yn awyddus i gael eich syniadau ynglŷn â’r stori: Beth y mae Pedr a’r Blaidd yn ei olygu i chi? Beth yw eich atgofion/profiadau cynharaf o’r stori? P’un a fyddoch yn y gynulleidfa, yn gerddor, neu â diddordeb pur yn unig, cysylltwch â ni a rhowch eich sylwadau inni. Byddem yn dwlu clywed yr hyn sydd gennych i’w ddweud, ac rydym yn gobeithio y byddwch yn ymuno â ni yn ein cynnwrf yn yr wythnosau i ddod.
Bydd rhagor yn dilyn – dilyn ni ar Facebook.
Yn edrych ymlaen at eich gweld yn fuan!
Milli.