Posted on

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…

Katka Maresova Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’. Yn gyntaf y mae’r ychwanegiad newydd at deulu Ensemble Cymru, Katka Marešová.

Ganed a magwyd Katka yng Ngweriniaeth Tsiec, a chyrhaeddodd Brydain fis Medi’r llynedd i dreulio blwyddyn yn astudio ym, Mhrifysgol Bangor. Ac mae’n ymddangos bod tirwedd garw, fynyddig gogledd Cymru yn rhannu rhai nodweddion tebyg â chartref Katka, fel yr eglura… Darllenwch fwy Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Katka…

Posted on

Blog Lucy am wneud cerddoriaeth (a ffrindiau bach) ym Mhwllheli

“Gan ddeffro i anferth o storm fellt a tharanau fore Sadwrn, roeddwn ychydig yn bryderus y gallai’r tywydd atal ein cynulleidfaoedd rhag dod draw – roedd hi’n swnio’n eithaf dychrynllyd y tu allan! Fodd bynnag, nid oedd angen imi boeni wedi’r cwbl, am i nifer o rieni a phlant cynhyrfus lifo i mewn i Neuadd Dwyfor, Pwllheli, ychydig cyn 10am, ar gyfer bore Sadwrn o hwyl gerddorol.

Dan arweiniad Sioned Roberts a chyda chymorth cerddorol gan Katerina Maresova, roedd y gweithdy’n anelu at gyflwyno plant ifainc i ryfeddod cerddoriaeth, a hynny trwy gân, gwrando a chwarae. Meddai Katerina:

“Mi wnes i fwynhau’n wirioneddol gymryd rhan yn y gweithdy heddiw – roedd mor werth chweil gweld y plant yn rhyngweithio â’r gerddoriaeth.” Darllenwch fwy Blog Lucy am wneud cerddoriaeth (a ffrindiau bach) ym Mhwllheli

Posted on

Ensemble Cymru i gadw sŵn yn Galeri yr haf hwn

Mae Ensemble Cymru wrthi’n paratoi i gadw sŵn yn Galeri yng Nghaernarfon yr haf hwn, gyda chyfres o berfformiadau digymell. Lansiodd y grŵp cerddoriaeth siambr o Fangor ei perfformiad cyntaf ar Galeri nos Sul, pan wnaeth perfformiad byrfyfyr gan brif offerynnwr taro’r Ensemble, Dewi Ellis-Jones o Gaernarfon, i’r bar sefyll yn stond.

Y perfformiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o gyngherddau chwim am ddim gan Ensemble Cymru yn Galeri yn ystod yr haf, a fydd yn cyrraedd ei hanterth ar 29 Medi am 12.30pm, gyda chyngerdd awr ginio â mynediad trwy docyn. Darllenwch fwy Ensemble Cymru i gadw sŵn yn Galeri yr haf hwn