Mae Ensemble Cymru wrthi’n paratoi i gadw sŵn yn Galeri yng Nghaernarfon yr haf hwn, gyda chyfres o berfformiadau digymell. Lansiodd y grŵp cerddoriaeth siambr o Fangor ei perfformiad cyntaf ar Galeri nos Sul, pan wnaeth perfformiad byrfyfyr gan brif offerynnwr taro’r Ensemble, Dewi Ellis-Jones o Gaernarfon, i’r bar sefyll yn stond.
Y perfformiad hwn yw’r cyntaf mewn cyfres o gyngherddau chwim am ddim gan Ensemble Cymru yn Galeri yn ystod yr haf, a fydd yn cyrraedd ei hanterth ar 29 Medi am 12.30pm, gyda chyngerdd awr ginio â mynediad trwy docyn.
Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, “Rydym yn cynnig perfformiadau byw o gerddoriaeth glasurol heb unrhyw amodau. I’r rhai nad ydynt erioed wedi ystyried mynd i gyngherddau cerddoriaeth siambr, mae hon yn ffordd iddyn nhw fentro a chael blas ar yr hyn y mae Ensemble Cymru’n ei wneud. Os ydynt yn hoffi’r hyn y maent yn ei glywed, byddem yn falch iawn o’u croesawu i’n cyngerdd lawn sydd i’w chynnal yn Galeri ym mis Medi.”
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Galeri, Mari Emlyn, “Mae ychydig yn anghyffredin, ac yn debygol o roi syrpréis i rai pobl, ond rydym yn wirioneddol gynhyrfus ynglŷn â’r project arbennig hwn gan Ensemble Cymru. Rydym yn gobeithio y bydd ein cynulleidfaoedd yn meddwl am hyn fel peth amheuthun, ychydig bach o gerddoriaeth yn gwbl annisgwyl!”
Bydd chwaraewyr Ensemble Cymru yn cynnal eu cyngerdd chwim nesaf yn Galeri ar 15 Awst o 6:30pm, ac yna ar 30 Awst o 12pm.
Bydd aelodau Ensemble Cymru hefyd yn ymddangos mewn nifer o ddigwyddiadau ar draws Gogledd Cymru gyda’u cyngherddau chwim yn ystod y misoedd i ddod; am fanylion llawn, ewch i wefan Ensemble Cymru.