Posted on

Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri

Nicki Pearce, cello
Nicki Pearce, cello
Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma.  Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu.

P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi, neu os ydych yn dipyn o arbenigwr, neu rywle yn y canol, bydd yr awyrgylch gyfeillgar a’r sylwebaeth ddiddorol gan y cerddorion rhwng y darnau cerddoriaeth yn sicrhau y bydd hwn yn gyngerdd y gall pawb ei fwynhau!  Yn ogystal â’r gerddoriaeth fe gewch fwynhau cinio cawl hynod flasus gyda the neu goffi i ddilyn yng Nghaffi Bar y Doc yn Galeri. Darllenwch fwy Cinio cerddorol Ensemble Cymru yn Galeri

Posted on

Beth ddigwyddod pan wnaeth Ensemble Cymru gyfarfod â Chodi’r To…

Sophie Cusworth
Sophie Cusworth
Yn gynharach yn ystod yr haf, cafodd Ensemble Cymru wahoddiad gan dîm Codi’r To i ymweld â dwy ysgol y maen nhw’n gweithio â nhw yng Ngwynedd. Nid yn annisgwyl, neidiodd Ensemble Cymru at y cyfle i berfformio o flaen y plant a chymryd rhan mewn gweithdy gyda nhw. Aeth dau o’n myfyrwyr gwirfoddol, Milli Evans a Sophie Cusworth, i weld sut aeth pethau…

Blog Sophie

“Gorffennaf 22, ymwelodd Ensemble Cymru ag Ysgol Glancegin ym Mangor ble ffilmiodd Milli a minnau’r holl waith. Mi gyrhaeddon ni tua 9yb i osod y camera yn ei le cyn i’r gweithdy ddechrau. Cefais y swyddogaeth hyfryd o fod yn gynorthwywr sain gan ddal meicroffon bŵm y tu ôl i’r camera i recordio’r sŵn.

Fe wnaethom lwyddo i ffilmio perfformiadau cerddorion Ensemble Cymru; Cai Isfryn a Gwyn Owen ar yr offerynnau pres, Sioned Roberts ar y clarinét, Katka Marešová yn chwarae’r ffidil a Glian Llwyd ar y piano. Hyfryd oedd gweld y cyfathrebu rhwng y cerddorion a’r plant yn gofyn cwestiynau doniol ac yn dysgu am wahanol fathau o seiniau y mae pob offeryn yn ei wneud. Darllenwch fwy Beth ddigwyddod pan wnaeth Ensemble Cymru gyfarfod â Chodi’r To…