Beth ddigwyddod pan wnaeth Ensemble Cymru gyfarfod â Chodi’r To…

Sophie Cusworth
Sophie Cusworth
Yn gynharach yn ystod yr haf, cafodd Ensemble Cymru wahoddiad gan dîm Codi’r To i ymweld â dwy ysgol y maen nhw’n gweithio â nhw yng Ngwynedd. Nid yn annisgwyl, neidiodd Ensemble Cymru at y cyfle i berfformio o flaen y plant a chymryd rhan mewn gweithdy gyda nhw. Aeth dau o’n myfyrwyr gwirfoddol, Milli Evans a Sophie Cusworth, i weld sut aeth pethau…

Blog Sophie

“Gorffennaf 22, ymwelodd Ensemble Cymru ag Ysgol Glancegin ym Mangor ble ffilmiodd Milli a minnau’r holl waith. Mi gyrhaeddon ni tua 9yb i osod y camera yn ei le cyn i’r gweithdy ddechrau. Cefais y swyddogaeth hyfryd o fod yn gynorthwywr sain gan ddal meicroffon bŵm y tu ôl i’r camera i recordio’r sŵn.

Fe wnaethom lwyddo i ffilmio perfformiadau cerddorion Ensemble Cymru; Cai Isfryn a Gwyn Owen ar yr offerynnau pres, Sioned Roberts ar y clarinét, Katka Marešová yn chwarae’r ffidil a Glian Llwyd ar y piano. Hyfryd oedd gweld y cyfathrebu rhwng y cerddorion a’r plant yn gofyn cwestiynau doniol ac yn dysgu am wahanol fathau o seiniau y mae pob offeryn yn ei wneud.

I weld ein gwaith ac, yn bwysicach fyth, i wrando ar y gerddoriaeth wych, cymerwch olwg ar fideo Milli isod.

Codir to cai_gwynMae tîm Codi’r To, a arweinir gan Carys Bowen a Bari Gwilliam, yn gwneud gwaith gwych gyda’r plant yn Ysgol Glancegin. Dim ond yn gynharach eleni y dechreuodd y project, gydag athrawon Codi’r To yn ymweld â grŵp yr holl flwyddyn i roi gwersi a gweithdai wythnosol, ond gellwch weld yn barod faint o fudd y maen nhw’n ei gael o’r profiad.  Roedd y grŵp cyfan wedi ymgolli gymaint yn y gerddoriaeth ac roedd yn amlwg faint roedden nhw wedi mwynhau’r sesiynau pan ddaethant i berfformio, ond mwy am hynny nawr…

Codir to sioned katkaYn ddiweddarach y bore hwnnw ar ôl i’r cerddorion chwarae, roedden ni wrth ein bodd ein bod ni’n cael y cyfle i weld y plant yn perfformio rhai o’u caneuon eu hunain. Roedden nhw’n edrych ymlaen yn fawr i ddangos inni beth roedden nhw wedi’i ymarfer ac roedd yn wych gweld faint roedden nhw’n mwynhau chwarae inni. Roeddwn yn edmygu pa mor frwdfrydig oedden nhw heb sôn am y dalent! Erbyn diwedd y bore roeddent wedi llwyddo i gael pawb i ganu a chlapio i’w ca
neuon.

Cefais ddiwrnod hyfryd yn y gweithdy ac rydw i’n meddwl bod Codi’r To yn creu cyfleoedd rhagorol i blant ddysgu a phrofi cerddoriaeth. Rydw i’n meddwl ei fod yn arbennig o gyffrous bod y disgyblion wedi cael y cyfle i gyfarfod â cherddorion Ensemble Cymru, gwrando arnynt yn siarad am gerddoriaeth, eu gwylio’n perfformio, a gorau oll, chwarae gyda nhw! Rydw i’n mawr obeithio y gwnaiff y profiad ysbrydoli’r plant ifanc hyn i fod yn gerddorion Ensemble Cymru y dyfodol!”

codi'r to logoGwybodaeth am Codi’r To

Wedi’i ysbrydoli gan ddull byd enwog yr El Sistema, In Harmony a Big Nose o weithredu, mae project Codi’r To yn gweithio gydag ysgolion cynradd a’u cymunedau i ddarparu profiadau cerddorol rheolaidd ac addysg offerynnol, gan weithio gyda grwpiau blwyddyn gyfan o blant. Mae dwy ysgol, un ym Mangor a’r llall yng Nghaernarfon, yn cymryd rhan ar hyn o bryd.

Bwriad y project yw defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o wella bywydau unigolion a chymunedau. Nod y  profiad yw bod yn gyfrwng ysbrydoliaeth a thrawsnewid y rhai sy’n cymryd rhan ynddo. Trwy ymrwymiad cerddorol o safon uchel, mae Codi’r To yn anelu at fynd i’r afael ag anfantais a thangyflawniad addysgol gan gynyddu’r disgwyliadau a gwella cyfleodd bywyd plant.