Ymunwch â’r grŵp cerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, am ginio pur wahanol yn Galeri y mis Medi yma. Yn ‘Blas o Ensemble Cymru’ bydd triawd o gerddorion cerddoriaeth siambr amryddawn yn diddanu ciniawyr i raglen awr o gerddoriaeth fyw a fydd yn eich cyfareddu.
P’un a ydi cerddoriaeth glasurol yn faes newydd i chi, neu os ydych yn dipyn o arbenigwr, neu rywle yn y canol, bydd yr awyrgylch gyfeillgar a’r sylwebaeth ddiddorol gan y cerddorion rhwng y darnau cerddoriaeth yn sicrhau y bydd hwn yn gyngerdd y gall pawb ei fwynhau! Yn ogystal â’r gerddoriaeth fe gewch fwynhau cinio cawl hynod flasus gyda the neu goffi i ddilyn yng Nghaffi Bar y Doc yn Galeri.
Eglurodd Cyfarwyddwr Artistig a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, beth y gall y gynulleidfa ei ddisgwyl yn y cyngerdd amser cinio:
“Rydym wedi gwau ynghyd raglen amrywiol iawn i ddangos y gorau o’r tri offeryn a fydd yn y cyngerdd yma, sef y piano, y clarinét a’r cello. Ceir cerddoriaeth gan Beethoven a ysgrifennwyd pan oedd ar ei orau fel meistr ar y piano, yn ogystal â datganiad hyfryd ar y cello o waith y meistr clasurol, Vivaldi, ac i gyferbynnu â hynny bydd gennym gerddoriaeth gan un o glarinetwyr jas mwyaf yr ugeinfed ganrif, Benny Goodman. Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at chwarae cerddoriaeth gan y cyfansoddwr opera o’r ddeunawfed ganrif, Weber, sy’n cynnwys y clarinét ar ei fwyaf dramatig ac operatig.”
Efallai bod ymwelwyr â Galeri wedi cael tipyn o ‘flas o Ensemble Cymru’ dros yr haf gan fod y grŵp wedi perfformio cyfres o gyngherddau am ddim yno i alluogi cynulleidfaoedd newydd i fwynhau cerddoriaeth glasurol.
Cynhelir ‘Blas o Ensemble Cymru’ yn Galeri, Caernarfon ddydd Llun 29 Medi am 12:30pm. Pris tocynnau yw £10 a £12 sy’n cynnwys cinio cawl. Gellir archebu tocynnau ar-lein, neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 01286 685222