Posted on

Derbyn i’r Big Give!

Mae Ensemble Cymru yn hynod o falch iddo gael ei dderbyn i fod yn rhan o Her Nadolig y Big Give eleni! Mae’r Big Give yn gynllun blynyddol ar gyfer cyllid cyfatebol a gynhelir bob Rhagfyr, gan roi llwyfan i 9,500 o elusennau godi arian a chyfle iddynt arddangos eu gwaith.

Sut i gymryd rhan

Mae’r Big Give yn gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach. Gellwch roi o 10am ddydd Iau 5 Rhagfyr 2014, a pharheir i gyfrannu cyllid cyfatebol i’ch rhoddion ar 5 a 6 Rhagfyr.

Darllenwch fwy Derbyn i’r Big Give!

Posted on

Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James


Fe gefais i’r fraint o fynd i Genefa i astudio Dalcroze Eurhythmics ar ddiwedd y 90au, ar ol rhai blyndyddoedd o astudio rhan amser ym Manceinion. Ar ddiwedd fy nhreithawd hir ar gyfer fy arholiadau gradd fe ysgrifennais mai fy mreuddwyd un dydd, fyddai i rannu y dull addysg arloesol yma gyda fy nghydwladwyr Cymreig. Fe esboniais i fi dderbyn addysg gerdd wych yn fy mhlentyndod, yn llawn canu a chwarae offerynnol ond na fu unrhyw gysylltiad rhwng yr addysg gerdd a’r addysg gorfforol (heblaw dawnsio gwerin, lle roedd y ddwy grefft yn cydfodoli ond doedd dim perthynas rhwng y symud a’r addysg gerddorol).

Hanfod unigryw Dalcroze Eurhythmics yw dysgu am gerddoriaeth trwy gerddoriaeth, a thrwy ymateb greddfol y corff. Mae’r athr(o)/awes yn chwarae cerddoriaeth byrfyfyr, neu wedi ei recordio, i ddwyn y dosbarth i ymateb i’r swn trwy symudiad naturiol y corff. Mae’n bosib dysgu, a phrofi pob elfen o gerddoriaeth trwy’r cyhyrau mawr yn gyntaf cyn rhoi pwyslais ar y cyhyrau manwl – yr hyn sy’n digwydd wrth chwarae offeryn. Dyma sut mae’r corff wedi dysgu ers plentyndod ac mae’n gwneud synhwyr i baratoi y corff yn ei gyfanrwydd cyn dechrau chwarae offeryn cerdd; ei baratoi i wrando, i ymateb yn chwim a hyblyg, i gydsymud yn briodol, i fod yn ymwybodol o eraill ac o’r gofod o’i amgylch, i danio’r dychymyg, ac ati. Darllenwch fwy Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James

Posted on

Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol.

Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ei daith ar draws Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos gyntaf o Dachwedd. Bydd y gantores 27 oed sy’n gyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn perfformio fel rhan o driawd ochr yn ochr â’r pianydd Anya Fadina a phrif glarinetydd yr Ensemble, Peryn Clement-Evans. Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Llio: Darllenwch fwy Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Posted on

Cyngherddau Coffi 2014-15 – llyfryn newydd y tymor

Classic Voice series front cover CYCroeso i gyfres y ‘Lleisiau Clasurol’ Ensemble Cymru, y tymor cyntaf yn hanes yr Ensemble sy’n canolbwyntio ar y llais.

Ymunwch â’r Ensemble wrth ddarganfod cyfoeth o gerddoriaeth siambr newydd, gyffrous gyda chantorion amlwg o Gymru, yn nhymor mwyaf egnïol a gwefreiddiol yr Ensemble hyd yma.
Lawrlwytho’r llyfryn Cyngherddau Coffi tymor 2014-15