Mae’n gerddoriaeth i’n clustiau – cantorion yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ein tymor newydd o Gyngherddau Coffi

Mae Tachwedd yn garreg filltir o bwys i’r sefydliad cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru. Am y tro cyntaf erioed, bydd cantorion yn perfformio fel rhan o’r ensemble ar gyfer ei dymor newydd sbon o Gyngherddau Coffi – cyfres y Lleisiau Clasurol.

Bydd y soprano a anwyd ym Môn, Llio Evans, yn ymuno ag Ensemble Cymru ar gyfer ei daith ar draws Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos gyntaf o Dachwedd. Bydd y gantores 27 oed sy’n gyn-enillydd yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn perfformio fel rhan o driawd ochr yn ochr â’r pianydd Anya Fadina a phrif glarinetydd yr Ensemble, Peryn Clement-Evans. Wrth siarad am y rhaglen, dywedodd Llio:

“Byddwn yn perfformio cerddoriaeth ryfeddol o bedwar ban y byd, yn ogystal â cherddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru. Mae’n gyfle i glywed rhai perlau nad ydynt yn cael eu perfformio’n aml iawn, yn ogystal â rhai clasurol, megis Wiegenlied gan Strauss, Mai gan Meirion Williams, a Shepherd on the Rock gan Schubert.”

Ac os nad ydych chi eisoes yn gyfarwydd â cherddoriaeth siambr, mae cyngherddau Ensemble Cymru yn cynnig cyfle delfrydol ichi edrych ar y genre, fel y mae’r soprano ifanc yn egluro,

“Gan mai Cyngherddau Coffi ydynt, maent yn fyr ac yn felys (yn para am ryw awr), felly, os yw cerddoriaeth glasurol yn newydd ichi a chithau’n awyddus i gael blas, mae’r gyngerdd hon yn berffaith ichi.”

Mae Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, yn trafod y datblygiadau newydd o fewn yr Ensemble o flaen y tymor newydd.

Peryn Clement-Evans
Peryn Clement-Evans

“Mae cydweithio â chantorion yn yr Ensemble yn rhywbeth rydym yn awyddus i’w wneud ers ffurfio Ensemble Cymru yn 2001. Mae’r syniad o gyflwyno dewis mwy cyfoethog fyth i gynulleidfaoedd yn arbennig o gyffrous. Wrth wneud hynny, rydym yn edrych ymlaen at greu mwy o gyfleoedd i weithio ar gyfer cantorion o’r radd flaenaf yng Nghymru sy’n awyddus i ymuno â ni a rhannu ein hangerdd tuag at gerddoriaeth siambr.”

Wrth edrych ymlaen at gyngherddau eraill y tymor, bydd y bariton Owen Webb, sy’n perfformio’n gyson gyda Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru, yn serennu yng nghyngherddau Chwefror, a’r soprano Mary-Jean O’Doherty yng nghyngherddau Mai.

I sicrhau y cewch sedd yn y cyfan o’r tair cyngerdd yng nghyfres y Lleisiau Clasurol, mae pecyn o docynnau tymor ar gael am y tro cyntaf erioed.   Prynwch docyn i’r cyfan o’r tair cyngerdd yn y lleoliad o’ch dewis, a chewch nifer o fuddion ar brisiau tocynnau arferol (ac eithrio cyngherddau dydd Iau yn Venue Cymru), yn ogystal â rhaglen am ddim i’r cyngherddau a rhodd am ddim. Dysgwych fwy.

Bydd Ensemble Cymru yn perfformio yng Nghapel Gad, Cilcain nos Iau 4 Tachwedd (8pm); Neuadd Dwyfor, Pwllheli ar 5 Tachwedd (1pm); Venue Cymru, Llandudno ar 6 Tachwedd (10:30am); Canolfan Ucheldre, Caergybi ar 6 Tachwedd (3pm); Lolfa’r Teras, Prifysgol Bangor ar 7 Tachwedd (8pm); Venue Cymru, Llandudno ar 8 Tachwedd (10:30am) – am fanylion llawn, Gweler ein tudalen digwyddiadau.