Posted on

Pam Dalcroze i Gymru? Gan Bethan Habron-James


Fe gefais i’r fraint o fynd i Genefa i astudio Dalcroze Eurhythmics ar ddiwedd y 90au, ar ol rhai blyndyddoedd o astudio rhan amser ym Manceinion. Ar ddiwedd fy nhreithawd hir ar gyfer fy arholiadau gradd fe ysgrifennais mai fy mreuddwyd un dydd, fyddai i rannu y dull addysg arloesol yma gyda fy nghydwladwyr Cymreig. Fe esboniais i fi dderbyn addysg gerdd wych yn fy mhlentyndod, yn llawn canu a chwarae offerynnol ond na fu unrhyw gysylltiad rhwng yr addysg gerdd a’r addysg gorfforol (heblaw dawnsio gwerin, lle roedd y ddwy grefft yn cydfodoli ond doedd dim perthynas rhwng y symud a’r addysg gerddorol).

Hanfod unigryw Dalcroze Eurhythmics yw dysgu am gerddoriaeth trwy gerddoriaeth, a thrwy ymateb greddfol y corff. Mae’r athr(o)/awes yn chwarae cerddoriaeth byrfyfyr, neu wedi ei recordio, i ddwyn y dosbarth i ymateb i’r swn trwy symudiad naturiol y corff. Mae’n bosib dysgu, a phrofi pob elfen o gerddoriaeth trwy’r cyhyrau mawr yn gyntaf cyn rhoi pwyslais ar y cyhyrau manwl – yr hyn sy’n digwydd wrth chwarae offeryn. Dyma sut mae’r corff wedi dysgu ers plentyndod ac mae’n gwneud synhwyr i baratoi y corff yn ei gyfanrwydd cyn dechrau chwarae offeryn cerdd; ei baratoi i wrando, i ymateb yn chwim a hyblyg, i gydsymud yn briodol, i fod yn ymwybodol o eraill ac o’r gofod o’i amgylch, i danio’r dychymyg, ac ati.

Dros y pymtheg mlynedd i fi ddysgu Dalcroze i blant ac oedolion o bob oedran a gallu led led y byd rwyf wedi profi pa mor syml yw hi i addysgu dosbarthiadau cyfan mewn sylfaen cerddoriaeth trwy roi gwybodaeth llawn-gorfforol iddynt; mae’r dysgu yn gyflym, yn effeithiol ac yn ddwfn, gan ei fod wedi ei seilio ar gof y cyhyrau.

Mae cyfoeth celfyddydol yn hanes Cymru ac yn hanes addysg cerdd y wlad; mae’r adnoddau crai yn bodoli yn barod – canu, cân actol, cerdd dant, dawnsio gwerin, cyd-adrodd. Gall Dalcroze bontio rhwng celfyddydau a’u cyfuno mewn amryw ffyrdd ysbrydoledig, i gadarnhau y cysylltiadau cynhenid rhyngddynt.


Dwy ffaith arall a’m hysgogodd i rannu’r wybodaeth hon â phlant Cymru yw i fi ddod o hyd i ffotograff o Jaques-Dalcroze ar risiau Prifysgol Bangor yn 1923 y llynedd; roedd yn arholi myfyrwyr ar y cwrs haf Prydeinig. Syndod a gwefr oedd canfod fod ‘y meistr’ ei hun wedi bod yma! Ac yn ail sonia Caryl Roese yn ei hadroddiad ar addysg cerdd cynradd Cymru (2003, Prifysgol Bangor) ar i Gyngor Ymgynghorol Addysg (Cymru) argymell gwersi yn null Dalcroze i ysgolion cynradd yn 1953. Felly nid chwiw newydd yw hyn.

Y peth pwysicaf i’w ddweud am Dalcroze yw fod plant ac oedolion yn tystio i’r hwyl sydd i’w gael yn y dysgu, a’i effaith ar ffyniant ac integreiddio cymdeithasol. Pwrpas gwersi Dalcroze yw cyfuno gwybodaeth ymenyddol â gwybodaeth corfforol, i roi cyfle i brofi a darganfod yn llawn. Yng ngeiriau Jaques-Dalcroze ei hun,

“The aim of eurhythmics is to enable pupils, at the end of their course, to say, not ‘I know,’ but, ‘I have experienced,’ and so to create in them the desire to express themselves.” Jaques-Dalcroze, Rhythm, Music and Education (1914)

Dysgwch fwy am Bethan Habron-James.

Rydym yn ddiolchgar i’r Ymddiriedolaeth Ernest Cook am ei gefnogaeth