Posted on

ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach).

Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau cerddorol, bandiau, ysgolion a gweithleoedd yn ardal Bangor a Llandudno i ymuno ag Ensemble Cymru i fynd â ChamberFest i’r lefel nesaf.

Cerddoriaeth gan J.S. Bach fydd thema ar gyfer ChamberFest 2015
Cerddoriaeth gan J.S. Bach fydd thema ar gyfer ChamberFest 2015

Felly os ydych wastad eisiau gwybod sut beth fyddai clywed band pres o 100 yn perfformio Tocata a Ffiwg Bach ar Benygogarth, neu efallai eich bod yn gweithio mewn swyddfa sy’n llawn o ddarpar gantorion a hoffech ffurfio eich côr eich hun o staff, neu efallai eich bod yn athro/athrawes a fyddai’n hoffi gweld eich disgyblion yn cael eu cynhyrchu a’u hysbrydoli gan gerddoriaeth. Beth bynnag fo’ch syniad, cysylltwch â ni i roi gwybod.

Nid yw hon yn rhestr derfynol o syniadau, ond gall eich ysbrydoli gyda’r math o ddigwyddiad neu weithgaredd yr hoffech gymryd rhan ynddo fel rhan o’r ŵyl Chamberfest…

Darllenwch fwy ChamberFest 2015: Bach

Posted on

Ymgyrch codi arian MAWR Ensemble Cymru i ddigwyddiad cerddoriaeth Bach

big giveSŵn cerddoriaeth Bach yn llenwi’r strydoedd! Dyna fwriad Ensemble Cymru, y grŵp cerddoriaeth siambr yng ngogledd Cymru, os gallant godi digon o arian yn eu hymgyrch Nadolig y Big Give a chaiff ei lansio yn Venue Cymru ar 4 Rhagfyr.

Mae’r grŵp cerddoriaeth glasurol yn bwriadu cynnal y dathliad mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru fis Mawrth nesaf ac mae croeso i bawb! Thema’r digwyddiad ChamberFest yn 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, gyda’r dathliadau yn cyrraedd uchafbwynt ar 21 Mawrth, sef pen-blwydd Bach. Mae’r project eisoes wedi ennill cefnogaeth dau o brif leoliadau’r celfyddydau yng ngogledd Cymru, sef Pontio a Venue Cymru. Darllenwch fwy Ymgyrch codi arian MAWR Ensemble Cymru i ddigwyddiad cerddoriaeth Bach

Posted on

Y newyddion diweddaraf ar y Big Give – gweler faint yr ydym wedi codi yn barod!

Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o fod wedi derbyn addewidion hael gwerth £3800.

Beth nesaf? Cam nesaf yr her yw’r cyfnod rhoi sy’n dechrau ddydd Iau 4 Rhagfyr.

Beth mae hyn yn ei olygu? Yn ystod y cyfnod hwn (o ddydd Iau 4 Rhagfyr, 10a.m.), pan roddir cyfraniad rhoddir swm sy’n cyfateb i 75% ohono o’r addewid, gyda’r gweddill yn dod o gronfa’r elusen. Mae hwn yn amser cyffrous i gyfrannu gan y gellwch weld eich rhodd yn dod â mwy fyth o fudd i Ensemble Cymru wrth iddi ddyblu!

Felly, os ydych yn un o gefnogwyr Ensemble Cymru ac yr hoffech ein helpu, Y Big Give ydi’r cyfle perffaith i gyfrannu! Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ynghylch beth mae eich rhodd yn ei olygu a chwiliwch ‘Ensemble Cymru’ i weld ein hymgyrch. Darllenwch fwy Y newyddion diweddaraf ar y Big Give – gweler faint yr ydym wedi codi yn barod!

Posted on

Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Nid ydych byth yn rhy ifanc i fwynhau cerddoriaeth, a phrofwyd hyn gan ein Bore Cerddoriaeth i Bobl Bach i blant rhwng 0-3 oed yn gynharach y mis hwn.

Gyda’r ifancaf yn y grŵp yn ddim ond tri mis oed, cafodd pawb amser gwych yn ein sesiwn Dalcroze Eurhythmics yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Roedd y dosbarth yn llawn gyda 15 o blant ac oedolion wedi dod yno i fwynhau’r gweithdy cerddoriaeth a symud.

Dan arweiniad yr arbenigwraig Dalcroze, Bethan Habron-James, bu’r plant bach yn archwilio sut y gall gwahanol synau, rhythmau a mathau o gerddoriaeth ein gwneud i symud mewn ffyrdd gwahanol.  Cafwyd llawer o ryngweithio gyda’r plant bach yn ymuno â’r gerddoriaeth trwy ganu, ysgwyd eu taclau ysgwyd neu daro eu curwyr pren. Cafwyd cerddoriaeth fyw hefyd wedi ei pherfformio gan aelodau o Ensemble Cymru ar y piano a’r clarinét. Darllenwch fwy Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Posted on

Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…

Llio Evans
Llio Evans
Dewch i adnabod y cerddorion y tu ôl i’r offerynnau gyda’n sesiynau ‘cyflwyno’!

Dewch i gwrdd â Llio Evans, ein soprano wych a fydd yn perfformio fel rhan o Ensemble Cymru yn ystod ein Cyngherddau Coffi ym mis Tachwedd.
Darllenwch fwy Y sesiynau ‘cyflwyno’: Dewch i gwrdd â Llio…