Cael plant bach i fwynhau cerddoriaeth dda

Nid ydych byth yn rhy ifanc i fwynhau cerddoriaeth, a phrofwyd hyn gan ein Bore Cerddoriaeth i Bobl Bach i blant rhwng 0-3 oed yn gynharach y mis hwn.

Gyda’r ifancaf yn y grŵp yn ddim ond tri mis oed, cafodd pawb amser gwych yn ein sesiwn Dalcroze Eurhythmics yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Roedd y dosbarth yn llawn gyda 15 o blant ac oedolion wedi dod yno i fwynhau’r gweithdy cerddoriaeth a symud.

Dan arweiniad yr arbenigwraig Dalcroze, Bethan Habron-James, bu’r plant bach yn archwilio sut y gall gwahanol synau, rhythmau a mathau o gerddoriaeth ein gwneud i symud mewn ffyrdd gwahanol.  Cafwyd llawer o ryngweithio gyda’r plant bach yn ymuno â’r gerddoriaeth trwy ganu, ysgwyd eu taclau ysgwyd neu daro eu curwyr pren. Cafwyd cerddoriaeth fyw hefyd wedi ei pherfformio gan aelodau o Ensemble Cymru ar y piano a’r clarinét.

Os wnaethoch chi fethu’r sesiwn hon, gallwch archebu lle yn ein sesiwn  nesaf yn Neuadd Dwyfor ddydd Mercher, 4 Chwefror, 2015, 11am – 11.30am. Dim ond lle i hyd at 15 o fabanod ac oedolion sydd ar gael felly fe’ch cynghorir i archebu lle’n fuan.