ChamberFest 2015: Bach

Rydym yn cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru a gelwir yr ŵyl yn ChamberFest. Y thema ar gyfer digwyddiad 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, a chynhelir y prif ddigwyddiad ar 20 a 21 Mawrth (21 Mawrth oedd pen-blwydd Bach).

Y newyddion da yw bod y digwyddiad hwn yn agored i bawb! Rydym yn chwilio am unigolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau cerddorol, bandiau, ysgolion a gweithleoedd yn ardal Bangor a Llandudno i ymuno ag Ensemble Cymru i fynd â ChamberFest i’r lefel nesaf.

Cerddoriaeth gan J.S. Bach fydd thema ar gyfer ChamberFest 2015
Cerddoriaeth gan J.S. Bach fydd thema ar gyfer ChamberFest 2015

Felly os ydych wastad eisiau gwybod sut beth fyddai clywed band pres o 100 yn perfformio Tocata a Ffiwg Bach ar Benygogarth, neu efallai eich bod yn gweithio mewn swyddfa sy’n llawn o ddarpar gantorion a hoffech ffurfio eich côr eich hun o staff, neu efallai eich bod yn athro/athrawes a fyddai’n hoffi gweld eich disgyblion yn cael eu cynhyrchu a’u hysbrydoli gan gerddoriaeth. Beth bynnag fo’ch syniad, cysylltwch â ni i roi gwybod.

Nid yw hon yn rhestr derfynol o syniadau, ond gall eich ysbrydoli gyda’r math o ddigwyddiad neu weithgaredd yr hoffech gymryd rhan ynddo fel rhan o’r ŵyl Chamberfest…

Syniadau

  1. Côr staff Conwy i ganu Jesu Joy of Man’s Desiring gan Bach i bobl mewn hosbisau, ysbytai a chartrefi preswyl
  2. Grŵp ieuenctid yn ymddangos mewn gwahanol lefydd yn Llandudno yn canu Badinerie gan Bach
  3. Fersiynau symlach o Bach yn cael eu perfformio gan ganwyr soddgrwth oed cynradd yn Venue Cymru
  4. Perfformiadau o 48 Preliwd a Ffiwg Bach ar biano mewn gwahanol leoliadau o amgylch Bangor a Llandudno
  5. Perfformiad o sonatâu trio Bach i’r organ mewn eglwysi
  6. Perfformiadau o gyfresi soddgrwth Bach gan nifer o ganwyr soddgrwth
  7. Fflachdorf Bach – perfformiadau byrfyfyr gyda llu o chwaraewyr mewn lle cyhoeddus
  8. Sgriblwyr Bach – cyfleoedd i gyfansoddwyr ifanc (neu hen) yr 21 ain ganrif glywed eu cerddoriaeth yn cael ei chwarae
  9. Athrawon cerdd yn chwarae Bach yn fyrfyfyr gyda cherddorion Ensemble Cymru mewn gwasanaethau ysgol
  10. Stepiau Bach – gweithdy Dalcroze Eurhythmics i blant yn defnyddio cerddoriaeth Bach.

Ni fydd unrhyw ymrwymiad ar yr adeg hon, ond hoffem glywed gan unrhyw un neu unrhyw grŵp sydd â

diddordeb posib mewn dysgu mwy am y digwyddiad a ffyrdd o gymryd rhan.

I gofrestru eich diddordeb, llenwch y ffurflen isod a byddwn yn cysylltu â chi.[gravityform id=”22″ name=”Chamberfest 2015 CY”]

big giveBig Give

I wireddu’r cynlluniau ar gyfer ChamberFest mae angen inni godi rhywfaint o arian, felly dyna’r rheswm am y Big Give. Mae’r Big Give yn gynllun arian cyfatebol felly rhoddir £1 am bob £1 a roddir i Ensemble Cymru drwy wefan y Big Give ar 4, 5 a 6 Rhagfyr gan ddyblu eich rhodd! Dysgwych mwy am y Big Give.