Y newyddion diweddaraf ar y Big Give – gweler faint yr ydym wedi codi yn barod!

Mae Ensemble Cymru’n hynod falch o fod wedi derbyn addewidion hael gwerth £3800.

Beth nesaf? Cam nesaf yr her yw’r cyfnod rhoi sy’n dechrau ddydd Iau 4 Rhagfyr.

Beth mae hyn yn ei olygu? Yn ystod y cyfnod hwn (o ddydd Iau 4 Rhagfyr, 10a.m.), pan roddir cyfraniad rhoddir swm sy’n cyfateb i 75% ohono o’r addewid, gyda’r gweddill yn dod o gronfa’r elusen. Mae hwn yn amser cyffrous i gyfrannu gan y gellwch weld eich rhodd yn dod â mwy fyth o fudd i Ensemble Cymru wrth iddi ddyblu!

Felly, os ydych yn un o gefnogwyr Ensemble Cymru ac yr hoffech ein helpu, Y Big Give ydi’r cyfle perffaith i gyfrannu! Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ynghylch beth mae eich rhodd yn ei olygu a chwiliwch ‘Ensemble Cymru’ i weld ein hymgyrch.

Os hoffech dderbyn gwybodaeth ddiweddaraf am her Y Big Give/projectau Ensemble Cymru, yna tecstiwch y rhif yma 07537 416 257 neu cofrestrwch drwy’r ffurflen.

Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau cam nesaf yr her ar 4 Rhagfyr 2014.

Beth mae eich rhoddion wedi’i gyflawni yn y gorffennol?

Ydych chi’n cofio llwyddiant cynhyrchiad Ensemble Cymru o ‘Pedr a’r Blaidd’?

Yng ngwanwyn 2014 fe wnaeth cerddorfa o 30 o gerddorion berfformio Pedr a’r Blaidd, o waith Prokofiev, yn Gymraeg am y tro cyntaf! Adroddwyd y stori gan yr actor Cymraeg, Rhys Ifans a chrëwyd y delweddau sgrin gan y darlunydd i blant, Marc Vyvyan Jones.

Ymunwyd â’r cerddorion ar y llwyfan gan seren S4C, Donna Direidi, a anogodd y gynulleidfa i gymryd rhan drwy ganu ac edrych ar seiniau’r gerddorfa.

Gallodd Ensemble Cymru ddod â’r stori hon yn fyw a’i rhoi ar y teledu am y tro cyntaf.
Ddysgwch mwy am Pedr a’r Blaidd.

Mae Ensemble Cymru’n eich annog i roi i ni drwy’r Big Give (o 10am ddydd Iau, 4 Rhagfyr) fel y gallwn barhau gyda gweithiau fel hyn a gwneud The Bach in the Subways 2015 yr un mor llwyddiannus, os nad yn fwy felly!