Sŵn cerddoriaeth Bach yn llenwi’r strydoedd! Dyna fwriad Ensemble Cymru, y grŵp cerddoriaeth siambr yng ngogledd Cymru, os gallant godi digon o arian yn eu hymgyrch Nadolig y Big Give a chaiff ei lansio yn Venue Cymru ar 4 Rhagfyr.
Mae’r grŵp cerddoriaeth glasurol yn bwriadu cynnal y dathliad mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru fis Mawrth nesaf ac mae croeso i bawb! Thema’r digwyddiad ChamberFest yn 2015 fydd cerddoriaeth J.S. Bach, gyda’r dathliadau yn cyrraedd uchafbwynt ar 21 Mawrth, sef pen-blwydd Bach. Mae’r project eisoes wedi ennill cefnogaeth dau o brif leoliadau’r celfyddydau yng ngogledd Cymru, sef Pontio a Venue Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans: “Rydym eisiau i’r dathliad hwn ddod â’r gymuned gyfan at ei gilydd, felly rydym yn cynnal trafodaethau gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, grwpiau cerddoriaeth a gweithleoedd i weld sut y gallant fod yn rhan o ChamberFest. Felly os hoffech berfformio ychydig o gerddoriaeth Bach fis Mawrth nesaf, cysylltwch â ni gan y byddem yn falch o glywed eich syniadau! Os hoffech sefydlu côr staff, bod yn rhan o Fflachdorf Bach neu efallai chwarae ychydig o gerddoriaeth Bach fel rhan o farathon piano – rhowch wybod i ni.”
Mae’r elusen angen codi arian i wireddu’r cynlluniau ar gyfer ChamberFest, felly dyna’r rheswm am y Big Give. Mae’r Big Give yn gynllun arian cyfatebol felly rhoddir £1 am bob £1 a roddir i Ensemble Cymru drwy wefan y Big Give ar 4, 5 a 6 Rhagfyr gan ddyblu eich rhodd!
I lansio ymgyrch codi arian y Big Give, cynhelir bore coffi gan Ensemble Cymru yn Venue Cymru ar 4 Rhagfyr, 9:30am – 11am. Bydd cerddoriaeth fyw, cyfle i ddysgu mwy am y digwyddiad ChamberFest a bydd cyfrifiaduron ar gael os hoffech gyfrannu.
I ddarganfod mwy am y Big Give neu i gofrestru eich diddordeb mewn bod yn rhan o‘r ChamberFest, cewch llenwi’r ffurflen isod, ffoniwch 01248 383 257 neu anfonwch eich enw ar decst i 07537 416 257.