Cychwyn yn soniarus wnaeth ymgyrch Rhoi Mawr Ensemble Cymru i godi arian, wrth i bum sielydd ifanc o Ysgol San Siôr berfformio yn y digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Venue Cymru ym mis Rhagfyr.
Trefnwyd y bore coffi gan yr elusen gerddoriaeth glasurol o Fangor, Ensemble Cymru, i godi arian at ei digwyddiad cerddorol, ChamberFest, sydd i’w gynnal ym mis Mawrth. Dewiswyd yr elusen i gymryd rhan yn Her Rhoi Mawr y Nadolig, cynllun cyllido cyfatebol sy’n dyblu rhoddion a gyflwynwyd ddechrau Rhagfyr tra bo cyllid ar gael.
Pennawd llun: (o’r chwith i’r dde) Esme Williams, Catrin Lindskog, Belle Harvey, Thomas Pearce, Otis Adams-Jammeh gyda’u hathrawes ’cello, Nicola Pearce.
Cafodd y rhoddwyr berfformiad o waith o eiddo Bach gan y feiolinwyr Maddie Chitty ac Antonia Munro, a’r ddwy’n fyfyrwyr cerddoriaeth o Brifysgol Bangor, a datganiad hefyd gan Gerddorfa ’Celli Ysgol San Siôr, dan arweiniad sielydd o Ensemble Cymru, Nicola Pearce.
Mwynhaodd un o’r sielyddion ifainc, Thomas, 7 oed, nad oedd wedi dechrau chwarae’r ’cello ond ers wyth wythnos, y profiad o chwarae o flaen cynulleidfa, gan ddweud:
“Dwy erioed wedi perfformio o’r blaen, felly rwy’n wirioneddol falch ohonof fy hun.”
Ar ben hynny, enillodd y cerddorion ifainc galonnau’r gynulleidfa, fel y dywedodd Brenda Watkins, sy’n mynd yn gyson i gyngherddau Ensemble Cymru:
“Pleser ac ysbrydoliaeth o’r mwyaf oedd gweld y plant ifainc yn perfformio a mwynhau eu hunain yn wirioneddol!”
Gellwch hefyd glywed y sielyddion yn perfformio yn y fideo hwn.
Wedi chwe diwrnod yn unig o godi arian, mae Ensemble Cymru wedi llwyddo i godi bron £8,000 trwy’r Rhoi Mawr.
Bydd yr arian a godir trwy’r ymgyrch hon yn mynd at ddigwyddiad y ChamberFest a fydd yn ddathliad o gerddoriaeth siambr yn cynnwys cerddorion proffesiynol o’r ensemble, ynghyd ag oedolion a phlant lleol – os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, anfonwch eich enw mewn neges destun i 07537 416 257 a chynnwys y gair ‘ChamberFest’, neu anfonwch e-bost at kate@ensemblecymru.co.uk