Posted on

Ymunwch â ni am ChamberFest 2015

Rydym ar fin cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru, gŵyl ddeuddydd a alwn yn ChamberFest. Cerddorfa J.S. Bach yw thema’r digwyddiad sydd i’w gynnal yn 2015, gyda pherfformiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau ar draws Bangor a Llandudno ar 20 a 21 Mawrth (ar 21 Mawrth y ganwyd Bach).

Mae ein digwyddiad ChamberFest ni’n rhan o ŵyl gerdd lawer mwy, ar raddfa fyd-eang, a elwir yn ‘Bach in the Subways’, ac sy’n dathlu cerddoriaeth Bach bob blwyddyn gyda pherfformiadau am ddim ym mhedwar ban y byd ar 21 Mawrth. Eleni, rydym yn hedfan y faner dros Gymru wrth lwyfannu ein digwyddiadau ein hunain, yma yng Ngogledd Cymru. Darllenwch fwy Ymunwch â ni am ChamberFest 2015