Rydym ar fin cynnal un o’r dathliadau mwyaf o gerddoriaeth siambr yng Nghymru, gŵyl ddeuddydd a alwn yn ChamberFest. Cerddorfa J.S. Bach yw thema’r digwyddiad sydd i’w gynnal yn 2015, gyda pherfformiadau a gweithgareddau mewn lleoliadau ar draws Bangor a Llandudno ar 20 a 21 Mawrth (ar 21 Mawrth y ganwyd Bach).
Mae ein digwyddiad ChamberFest ni’n rhan o ŵyl gerdd lawer mwy, ar raddfa fyd-eang, a elwir yn ‘Bach in the Subways’, ac sy’n dathlu cerddoriaeth Bach bob blwyddyn gyda pherfformiadau am ddim ym mhedwar ban y byd ar 21 Mawrth. Eleni, rydym yn hedfan y faner dros Gymru wrth lwyfannu ein digwyddiadau ein hunain, yma yng Ngogledd Cymru.
A’r rhan orau yw’r ffaith fod y cyfan o’r perfformiadau a’r gweithgareddau AM DDIM!
Ceir perfformiadau gan ein cerddorion proffesiynol ein hunain, ac rydym hefyd wedi gwahodd pobl leol, cantorion ac offerynwyr amatur, plant ysgol, myfyrwyr a grwpiau ieuenctid i ymuno â’n cerddorion ar gyfer rhai perfformiadau a digwyddiadau unigryw. P’un a fyddoch yn cymryd rhan neu’n gwylio, rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau profiad bythgofiadwy o Bach!
Dyma restr o rhai o’r ddigwyddiadau sydd i’w cynnal yn ystod ein dau ddiwrnod o ChamberFest – rydym yn gobeithio eich gweld yno!
Mawrth 20
Pobol Bach
Bydd plant ysgolion cynradd lleol yn ymuno ag Ensemble Cymru a Chôr Siambr Bangor ar gyfer perfformiad rhyngweithiol o Bach.
9:45am: Eglwys Gadeiriol Bangor
1:30pm: Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandudno
Bach Chwim
Gwrandewch am sŵn Bach! Perfformiadau byw byrfyfyr o 4pm yng Nghanolfan Victoria, Llandudno gan Gwasanaeth Cerdd Conwy.
Dewch i Ganu Bach
Eglwys y Drindod Sanctaidd
3pm – Ymarfer agored, croeso i gantorion!
7pm – Perfformiad o Magnificat Bach gydag Ensemble Cymru a Chôr Siambr Bangor, croeso i’r gynulleidfa gymryd rhan!
8pm – Ensemble Cymru yn perfformio Concerto Brandenburg Rhif 4.
Mawrth 21
Jim Bach
Ysgol Friars, Bangor
10:30am: Arddangosiad llawr gan fabolgampwyr Gwynjim, wedi’i osod i Concerto Brandenburg Rhif 4 gan Bach, gyda pherfformiad byw gan gerddorion Ensemble Cymru o gerddoriaeth.
Gweithdy Corawl
Venue Cymru, Llandudno
10.30am: Bydd yr arweinydd corawl o’r Swistir, Christian Klucker, yn arwain gweithdy corawl. Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb mewn canu ddod i’r sesiwn hon.
Fflach Bach
Siop BHS
1.45pm: Paratowch i gael eich dallu gan Fflach Bach! Perfformiad gan aelodau o Grŵp Theatr Gerdd Ieuenctid Llandudno a Chôr Siambr Bangor, wedi’i osod i gerddoriaeth fyw gan Bach i’w pherfformio gan Ensemble Cymru.