Posted on

Y delyn yn cloi cyngerdd olaf Ensemble Cymru

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres Cyngerdd Coffi gyda’r delyn yn cael lle canolog mewn rhaglen o gerddoriaeth siambr drawiadol a berfformir gan ensemble o saith, yn cynnwys pedwarawd llinynnol a thelynores wobrwyog o’r Swistir.

Bydd taith y grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru ym mis Mai yn dwyn ynghyd gerddoriaeth gan gyfansoddwyr o Gymru a Ffrainc yn cael ei pherfformio gan offerynwyr o’r radd uchaf o Gymru ac o bell.

Bydd Elisa Netzer, telynores sydd ar i fyny yn y Swistir, ei gwlad enedigol, yn ymuno â rhai o ddoniau cartref yr Ensemble gan gynnwys y fiolydd Sara Roberts o Fôn, a Chyfarwyddwr Artistig yr Ensemble, Peryn Clement-Evans sy’n byw ym Mangor.

Wrth sôn am ei hymddangosiad cyntaf yng Nghymru gyda’r Ensemble, dywedodd Elisa:

“Wrth imi baratoi i deithio i Gymru ar gyfer y daith, ni allaf ond meddwl cymaint o fraint yw cael perfformio rhaglen rwyf wrth fy modd gyda hi, mewn gwlad sy’n caru fy offeryn i gymaint. Ni allaf ddisgwyl i archwilio’r grym mawr sy gan gerddoriaeth siambr eto: dieithriaid llwyr yn dod at ei gilydd ac yn deall ei gilydd i’r dim drwy gerddoriaeth.”  

Mae’r rhaglen yn cyflwyno cymysgedd atgofus o gerddoriaeth gan gynnwys un o’r darnau mwyaf trawiadol o hardd i’w gyfansoddi erioed, Cyflwyniad ac Allegro gan Ravel, sy’n dangos yn berffaith ystod mynegiant y delyn. Bydd yna gerddoriaeth hefyd gan Debussy a Jean Francaix ochr yn ochr â darnau gan gyfansoddwyr o Gymru fel Christopher Painter, a aned ym Mhort Talbot, a John Metcalf, sefydlydd Gŵyl Bro Morgannwg.

Bydd y daith drwy Gymru yn galw yn Aberystwyth, Caerdydd, Llandudno, Caernarfon, Caergybi a’r Fflint yn ystod mis Mai. Mae manylion llawn am y rhaglen ar ein tudalen digwyddiadau.

Posted on

Cerddoriaeth, Cymraeg a Rumantsch yn y Swistir

Perfformiad ar gyfer Darllediad ar Radio a Theledu Rumantsch.

Roedd y perfformiad ar y cyd â Corcanti Chur a Chôr Rumantsch o flaen disgyblion, athrawon, teuluoedd a’r cyhoedd yn brofiad gofiadwy iawn.  Recordiwyd yr holl ddigwyddiad ar gyfer teledu a radio Romansch.

Yr uchafbwynt oedd perfformio Hen Wlad Fy Nhadau (trefn. Gareth Glyn) ar y cyd gyda chorau ieuenctid o Ysgol Canton Graubünden.  Perfformiodd ein cerddorion groesdoriad o gerddoriaeth o Gymru gan gynnwys cerddoriaeth gan William Mathias, Hilary Tann, Cerdd Dant (trefn Sioned Webb) a’r gân adnabyddus Lisa Lan.

Trafodaeth am Fyw drwy’r Gymraeg a Rumantsch

O dan gadeiryddiaeth cyflwynwraig o Radio a Theledu Rumantscha, Victoria Haas, roedd trafodaeth a ddeilliodd o gwestiynau trylwyr gan y bobl ifanc ynglŷn â chefnogaeth i’r Gymraeg fel un o ddwy iaith swyddogol Cymru, statws y Gymraeg, dwyieithrwydd yng Nghymru a chymhariaeth gyda statws Romansch fel un o bedair iaith swyddogol yn y Swistir.

Wedyn i gloi, perfformiadau ar y cyd (ni a’r corau)  o ganeuon swynol romansch mewn trefniannau arbennig ar gyfer y prosiect gan y cyfansoddwr a’r baswnydd Gion Andreas o gerddoriaeth ei dad, Gion Balzer Casanova.

Cerddoriaeth wrth Galon Addysg

Mae gan Ysgol Canton Graubunden dîm gwych o 7 athro cerddoriaeth gan gynnwys Christian Klucker, llysgennad ein prosiect a Gion Andreas sy’n gweithio mor galed gyda’r bobl ifanc drwy ganu a cherddoriaeth drwy gydol yr ysgol.  Gan siarad gyda Chyfarwyddwr yr ysgol, ces i’r argraff cryf pa mor bwysig yw cerddoriaeth gan helpu’r ysgol a’i staff baratoi ei phobl ifanc am fywyd.

Mae’r cyfleusterau cerddoriaeth ar gyfer oddeutu 2,000 o ddisgyblion yn yr ysgol yn rhagorol.  Rydym yn amau y byddai o leiaf 1 neu 2 o’r conservatoires ac adrannau cerddoriaeth ym Mhrydain yn genfigennus o’r nifer o pianos, ac ystafelloedd sydd ar gael i gerddoriaeth yn unig.

Ymarfer terfynol yn Chur: Anne Denholm a Sara Lian Owen
Ymarfer terfynol yn Chur: Anne Denholm a Sara Lian Owen

Diolchiadau i Gyfarwyddwr, Gion Lechmann a Dirprwy Gyfarwyddwr, Philippe Benguerel o  Bündner Kantonsschule (ysgol uwchradd yn Chur) am eu cefnogaeth.  Diolch i Werner Cariget a’i ddisgyblion am eu gwaith gan baratoi cwestiynnau ar gyfer y drafodaeth ac i Mike Evans am gyfeithu ar y pryd.  Mike yw’r unig person rydym ni’n ei adnabod sy’n siarad Cymraeg a Rumantsch!

Mae rhaid diolch yn arbennig i lysgennad y prosiect, Christian Klucker (Arweinydd Incantanti ac Athro Cerddoriaeth Bündner Kantonsschule) sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant ein hymweliad.  Roeddem ni yn arbennig o ddiolchgar iddo fo ac Erica a’u teulu a’i gymdogion, Beatrice ac Andreas, am y croeso, lletygarwch  ac am edrych ar ein holau ni.

Gweithio gyda Cherddorion Ifanc Chur

Gyda chymorth ein cyfieithwyr ar y pryd, Toni, Kurt a Karin, cawsom ni lot o hwyl yn gweithio gydag offerynwyr ifanc ( Gitâr, recorders, ffliwt, sacsoffonau, clarinét, feiolinau, fiolas, sielo) o Musikschule Domat/Ems, Felsberg.

_STO8256
Yn paratoi i ymarfer

Arweiniodd cerddorion Ensemble Cymru ar weithgareddau i gynhesu’r corff, i ddatblygu synnwyr o rhythm ac i ddatblygu’r gallu i anadlu a chynnal sain yn effeithiol.  Wedyn ymlaen â ni i weithio ar drefniant Gareth Glyn o Ar Hyd y Nos ar gyfer yr Ensemble a’r cerddorion ifanc.  Ymunodd arweinydd y gerddorfa, Ursin Widmer ar yr ail ddiwrnod i arwain perfformiad ar ddiweddglo ein deuddydd gyda’r plant a phobl ifanc.

_STO8259

Sibilla Stoltz (canol) ac Anne Denholm (dde)

Roeddem yn hynod o ddiolchgar i Sibilla Stolz (Cyd lynydd y gerddorfa) am ein gyrru ni o gwmpas yn y bws (a’i gwr Rico) ac am drefnu’r 2 weithdy.  Hefyd rydym yn ddiolchgar i Anita Jehli (pennaeth yr ysgol) a’i swyddfa am ein galluogi ni i weithio gyda myfyrwyr yr ysgol ac i Kathrin von Cube (Pennaeth Llinynnau), Bettina Marugg (Pennaeth Ensembl Ffliwt) ac Ursin Widmer (Cyfarwyddwr y gerddorfa) am baratoi’r plant.

Diolchiadau mawr ar ran yr Ensembl: Peryn(Clarinét), Sara (Soprano), Oliver (Fiola), Jonathan (Ffliwt) ac Anne (Telyn) i’r plant a phobl ifanc am fod gymaint o hwyl i weithio gyda nhw!

_STO8314
Jonathan Rimmer (Ffliwt) ac Oliver Wilson (Fiola) yn gweithio gyda’r gerddorfa