Perfformiad ar gyfer Darllediad ar Radio a Theledu Rumantsch.
Roedd y perfformiad ar y cyd â Corcanti Chur a Chôr Rumantsch o flaen disgyblion, athrawon, teuluoedd a’r cyhoedd yn brofiad gofiadwy iawn. Recordiwyd yr holl ddigwyddiad ar gyfer teledu a radio Romansch.
Yr uchafbwynt oedd perfformio Hen Wlad Fy Nhadau (trefn. Gareth Glyn) ar y cyd gyda chorau ieuenctid o Ysgol Canton Graubünden. Perfformiodd ein cerddorion groesdoriad o gerddoriaeth o Gymru gan gynnwys cerddoriaeth gan William Mathias, Hilary Tann, Cerdd Dant (trefn Sioned Webb) a’r gân adnabyddus Lisa Lan.
Trafodaeth am Fyw drwy’r Gymraeg a Rumantsch
O dan gadeiryddiaeth cyflwynwraig o Radio a Theledu Rumantscha, Victoria Haas, roedd trafodaeth a ddeilliodd o gwestiynau trylwyr gan y bobl ifanc ynglŷn â chefnogaeth i’r Gymraeg fel un o ddwy iaith swyddogol Cymru, statws y Gymraeg, dwyieithrwydd yng Nghymru a chymhariaeth gyda statws Romansch fel un o bedair iaith swyddogol yn y Swistir.
Wedyn i gloi, perfformiadau ar y cyd (ni a’r corau) o ganeuon swynol romansch mewn trefniannau arbennig ar gyfer y prosiect gan y cyfansoddwr a’r baswnydd Gion Andreas o gerddoriaeth ei dad, Gion Balzer Casanova.
Cerddoriaeth wrth Galon Addysg
Mae gan Ysgol Canton Graubunden dîm gwych o 7 athro cerddoriaeth gan gynnwys Christian Klucker, llysgennad ein prosiect a Gion Andreas sy’n gweithio mor galed gyda’r bobl ifanc drwy ganu a cherddoriaeth drwy gydol yr ysgol. Gan siarad gyda Chyfarwyddwr yr ysgol, ces i’r argraff cryf pa mor bwysig yw cerddoriaeth gan helpu’r ysgol a’i staff baratoi ei phobl ifanc am fywyd.
Mae’r cyfleusterau cerddoriaeth ar gyfer oddeutu 2,000 o ddisgyblion yn yr ysgol yn rhagorol. Rydym yn amau y byddai o leiaf 1 neu 2 o’r conservatoires ac adrannau cerddoriaeth ym Mhrydain yn genfigennus o’r nifer o pianos, ac ystafelloedd sydd ar gael i gerddoriaeth yn unig.

Diolchiadau i Gyfarwyddwr, Gion Lechmann a Dirprwy Gyfarwyddwr, Philippe Benguerel o Bündner Kantonsschule (ysgol uwchradd yn Chur) am eu cefnogaeth. Diolch i Werner Cariget a’i ddisgyblion am eu gwaith gan baratoi cwestiynnau ar gyfer y drafodaeth ac i Mike Evans am gyfeithu ar y pryd. Mike yw’r unig person rydym ni’n ei adnabod sy’n siarad Cymraeg a Rumantsch!
Mae rhaid diolch yn arbennig i lysgennad y prosiect, Christian Klucker (Arweinydd Incantanti ac Athro Cerddoriaeth Bündner Kantonsschule) sydd wedi gweithio mor galed i sicrhau llwyddiant ein hymweliad. Roeddem ni yn arbennig o ddiolchgar iddo fo ac Erica a’u teulu a’i gymdogion, Beatrice ac Andreas, am y croeso, lletygarwch ac am edrych ar ein holau ni.
Gweithio gyda Cherddorion Ifanc Chur
Gyda chymorth ein cyfieithwyr ar y pryd, Toni, Kurt a Karin, cawsom ni lot o hwyl yn gweithio gydag offerynwyr ifanc ( Gitâr, recorders, ffliwt, sacsoffonau, clarinét, feiolinau, fiolas, sielo) o Musikschule Domat/Ems, Felsberg.

Arweiniodd cerddorion Ensemble Cymru ar weithgareddau i gynhesu’r corff, i ddatblygu synnwyr o rhythm ac i ddatblygu’r gallu i anadlu a chynnal sain yn effeithiol. Wedyn ymlaen â ni i weithio ar drefniant Gareth Glyn o Ar Hyd y Nos ar gyfer yr Ensemble a’r cerddorion ifanc. Ymunodd arweinydd y gerddorfa, Ursin Widmer ar yr ail ddiwrnod i arwain perfformiad ar ddiweddglo ein deuddydd gyda’r plant a phobl ifanc.
Sibilla Stoltz (canol) ac Anne Denholm (dde)
Roeddem yn hynod o ddiolchgar i Sibilla Stolz (Cyd lynydd y gerddorfa) am ein gyrru ni o gwmpas yn y bws (a’i gwr Rico) ac am drefnu’r 2 weithdy. Hefyd rydym yn ddiolchgar i Anita Jehli (pennaeth yr ysgol) a’i swyddfa am ein galluogi ni i weithio gyda myfyrwyr yr ysgol ac i Kathrin von Cube (Pennaeth Llinynnau), Bettina Marugg (Pennaeth Ensembl Ffliwt) ac Ursin Widmer (Cyfarwyddwr y gerddorfa) am baratoi’r plant.
Diolchiadau mawr ar ran yr Ensembl: Peryn(Clarinét), Sara (Soprano), Oliver (Fiola), Jonathan (Ffliwt) ac Anne (Telyn) i’r plant a phobl ifanc am fod gymaint o hwyl i weithio gyda nhw!
