Ar ôl cyfnewid awyrennau a bron yn colli ein bagiau yn Gatwick dyma Jonathan Rimmer, Oliver Wilson, Sara Lian Owen ac Anne Denholme newydd gyrraedd Gorsaf Drên Zurich ar y ffordd i Chur yn Graubünden. Dyma brosiect cyffrous gyda chymuned sy’n siarad Romansch un o’r 4 iaith swyddogol y Swistir.