Wrth i Ensemble Cymru baratoi at ddechrau tymor newydd ddiwedd mis Hydref, mae Anne Denholm, sydd newydd ei phenodi’n brif delynores yr Ensemble, yn rhoi golwg i ni ar ei swyddogaeth fel Telynores Frenhinol, ei hoffter o gerddoriaeth siambr, a sut y gwnaeth tyfu i fyny yng Nghymru helpu i feithrin ei huchelgais i chwarae’r delyn fel gyrfa.
Yn wreiddiol o Sir Gaerfyrddin ac o dras Albanaidd, daeth Anne i gysylltiad gyntaf â’r delyn fel un o’r offerynnau a gynigid yn ei hysgol gynradd fel rhan o’u cynllun gwersi offerynnol – rhywbeth a oedd “yn sicr yn fwy tebygol o ddigwydd mewn ysgol Gymreig!” yn ôl Anne.
Yn un ar ddeg oed roedd Anne yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol y Plant ac eisoes yn dechrau ystyried gyrfa ym maes cerddoriaeth. Erbyn iddi gyrraedd tair ar ddeg roedd wedi rhoi ei bryd yn llwyr ar yrfa gerddorol ac yn benderfynol o wneud popeth i gyflawni hynny.
Ac mae’r penderfyniad hwnnw wedi talu ar ei ganfed. Aeth Anne ymlaen i gael gradd Meistr gyda rhagoriaeth o’r Royal Academy of Music (RAM) yn Llundain, gan ennill gwobr Scheffel-Stein i’r delyn, gwobr Syr Reginald Thatcher a Gwobr Regency am gyrhaeddiad nodedig.
Yn fuan dechreuodd Anne wneud enw iddi’i hun fel un o delynorion ifanc amlycaf Prydain ac ni fu’n disgwyl yn hir cyn derbyn gwahoddiad i un o’r swyddi amlycaf yn y wlad, sef Telynores Swyddogol i Dywysog Cymru.
Cafodd swydd Telynor Brenhinol/Telynores Frenhinol ei hadfer yn 2000 gan Dywysog Cymru gyda thair amcan iddi: hyrwyddo’r delyn fel offeryn, hyrwyddo diwylliant Cymreig, a chefnogi artistiaid ifanc. Mae proses penodi Telynor Brenhinol/Telynores Frenhinol yn cynnwys enwebu, ymgeisio, clyweliad a chyfweliad. Penodwyd Anne i’r swydd yng Ngorffennaf 2015 ac mae’n cofio teimlo’n eithriadol freintiedig ac ar ben ei digon a dywed fod yr ychydig fisoedd cyntaf yn y swydd yn gyfnod o gyffro a datblygiad mawr.
Ymysg dyletswyddau eraill, mae swydd Telynores Frenhinol yn galluogi Anne i hyrwyddo’r delyn fel offeryn cymwys i gynulleidfaoedd a chyfansoddwyr fel ei gilydd, rhywbeth y mae’n teimlo’n gryf amdano: “Mae gan bawb sy’n caru’r delyn ddyled fawr i’r Tywysog am adfer y swydd yma, sy’n galluogi i’r delyn gael ei gwerthfawrogi gan gynulleidfa ehangach, ac mae’r swydd yn sicr o gymorth i hyrwyddo’r delyn ym myd cerddoriaeth glasurol.”
Mae Anne yn frwd ynghylch mynd â cherddoriaeth glasurol i’r gymuned ehangach. Er 2015 mae Anne wedi bod yn perfformio dan ‘Live Music Now’, sefydliad sy’n cynnig profiadau cerddorol a chynnal cyngherddau hygyrch i bawb, yn cynnwys plant a phobl oedrannus. Mae Anne yn gweithio hefyd gyda ‘Bach to Baby’, project sydd wedi’i anelu’n arbennig at ddarparu cyngherddau o safon i blant o bob oed.
Mae’n ffodus, felly, mai Anne yw Prif Delynores Ensemble Cymru; cwmni o Ogledd Cymru sy’n rhannu llawer o frwdfrydedd Anne dros fynd â cherddoriaeth glasurol at gynulleidfa mor eang â phosibl. Fel rhan o daith Ensemble Cymru fis Hydref a Thachwedd eleni, bydd Anne, ynghyd â thri aelod arall o’r ensemble, yn mynd â cherddoriaeth siambr i gymunedau ledled Cymru gan berfformio mewn ysbytai ac ysgolion, yn ogystal â’r prif leoliadau cyngherddau.
Mae gweithio gydag Ensemble Cymru nid yn unig yn sicrhau bod Anne yn parhau â’i gwaith o fynd â cherddoriaeth i gymunedau, mae’n helpu hefyd i hyrwyddo’r delyn a’i repertoire ymhellach, rhywbeth y mae Anne yn awchu amdano:
“Mae unrhyw gyfle i gynnwys y delyn mewn cerddoriaeth siambr yn gyfle gwerthfawr i ddangos amlochredd a grym anhygoel yr offeryn. Mae’n wych o beth fod grŵp poblogaidd fel Ensemble Cymru wedi penderfynu cynnwys y delyn yn eu rhaglenni, ac rwy’n hynod falch o fod yn rhan o’r cynllun yma!”
Wrth edrych ar brojectau gwaith blaenorol Anne, mae’n amlwg fod cerddoriaeth siambr yn agos iawn at ei chalon, a gellir olrhain gwreiddiau hynny’n ôl i’w magwraeth yng Nghymru lle roedd yn perfformio’n rheolaidd gyda cherddorion ifanc eraill, fel yr eglura; “Roeddwn yn hynod lwcus i fod yn rhan o grŵp o deuluoedd a oedd yn annog eu plant i chwarae mewn ensembles bychain. O gyfnod cynnar iawn roeddwn yn chwarae’n rheolaidd gyda phobl eraill o’m hoed ac roeddem yn ffodus hefyd fod gwyliau a chystadlaethau cerddorol rhagorol ar gael i ni (yn cynnwys yr Eisteddfodau a’r Wyl Cerdd Dant) lle gallem berfformio’n gyhoeddus a chael sylwadau adeiladol. Mae gen i ddyled fawr i’r profiadau cynnar ffurfiannol yma.”
Gyda’r brwdfrydedd hwn dros gerddoriaeth siambr a’r delyn yr aeth Anne, ynghyd â’r Cyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans, ati gyda’i gilydd i greu’r rhaglenni ar gyfer cyngherddau 2016-2017 Ensemble Cymru. Bydd teithiau’r hydref a’r gwanwyn, mewn tair rhan, yn ymdrin â cherddoriaeth i’r delyn mewn ffordd amrywiol. Ar un llaw, bydd y cwmni’n archwilio cerddoriaeth o’r ugeinfed ganrif ar gyfer amrywiaeth o ensembles; ar y llaw arall, mae’r cerddorion wedi cymryd enghreifftiau o’r repertoire clasurol mwy traddodiadol a threfnu’r gweithiau fel eu bod yn cynnwys y delyn. Bydd paru CPE Bach â Dialogues gan y cyfansoddwr Cymreig, Mervyn Burtch, yn sicr yn dangos ystod gallu a mynegiant y delyn.
Meddai Anne wrth sôn am gyd-drefnu rhaglen y tymor newydd i Ensemble Cymru, “Ein nod oedd dangos amrywiaeth o gyfuniadau offerynnol yn cynnwys y delyn (mae rhaglen yr hydref i delyn a chwythbrennau, ac ym Mai byddwn yn defnyddio cyfuniad mwy traddodiadol o ffliwt, telyn a fiola), a chreu rhaglenni sy’n amrywiol, yn adloniadol ac weithiau’n heriol – mae yna rywbeth i bawb!”
Bydd tymor newydd Ensemble Cymru’n dechrau yn Pontio ym Mangor ar 30 Hydref, yna Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli ar 31 Hydref, Capel Gad yng Nghilcain ar 1 Tachwedd, Canolfan Ucheldre Caergybi ar 2 Tachwedd, Venue Cymru yn Llandudno ar 3 a 5 Tachwedd, Galeri Caernarfon ar 4 Tachwedd a Chanolfan Gelfyddydau Aberystwyth ar 27 Tachwedd. Ewch i’n tudalen ddigwyddiadau i weld y manylion llawn.
Anne yw’r cyntaf i dderbyn y Gadair Ryngwladol Gaynor Cemlyn-Jones i’r delyn.