Rydym eisiau dod i adnabod chi…

Mae Cyfarwyddwr Artistig Peryn Clement-Evans yn eich gwahodd am baned a sgwrs.

Mae Tymor 2016/2017 ar fin dechrau ac mae Ensemble Cymru am ddod i nabod chi, ein cefnogwyr, yn gwell. Ble gwell i ddechrau na gyda phaned a sgwrs?

Dros y chwe mis nesaf, byddwn yn trefnu diwrnodau paned mewn lleoliadau ledled Cymru. Ein nod, yw i ddod i nabod chi, ein cefnogwyr, yn well; i ddarganfod beth sy’n bwysig i chi, a sut yr hoffech weld yr Ensemble yn gwneud gwahaniaeth. Yn ogystal, byddem yn hoffi gwybod am eich syniadau ar sut i ddatblygu Cyfeillion Ensemble Cymru.

Manylion

Mae’r cyntaf o’r diwrnodau wedi cael ei drefnu ar gyfer:

Cafe Venue Cymru, Llandudno
Dydd Llun 10 Hydref, 2016 am 2.30 y.h.

Swyddfa Post a Siop Cilcain
Dydd Mawrth 11 Hydref, 2016 am 10.30 y.b.

Canolfan Arddio a Woodworks Café, Yr Wyddgrug
Dydd Mawrth 11 Hydref, 2016 am 2.30 y.h.

Os ydych am ymuno â ni, gadwech i ni wybod trwy anfon ebost i Angharad@ensemble.cymru

Published
Categorized as Newyddion