Mae Ensemble Cymru, sy’n elusen gerddoriaeth siambr, yn dathlu 15 mlynedd o fynd â pherfformiadau cerddoriaeth siambr o ansawdd uchel i gymunedau ledled gogledd Cymru, ac i nodi’r achlysur arbennig hwn maent yn gofyn i chi chwarae eich rhan yn eu Her Rhoi Mawr y Nadolig.
Dewiswyd y grŵp cerddoriaeth glasurol sydd wedi ei leoli ym Mangor o blith miloedd o elusennau eraill i gymryd rhan yn ymgyrch gyllido gyfatebol ar-lein fwyaf y DU, y Rhoi Mawr, sy’n dyblu’r rhoddion a roddir yn ystod cyfnod o 72 awr yr wythnos nesaf.
Mae addewid o £5,000 eisoes wedi cael ei godi gan Ensemble Cymru ond yr unig ffordd i ddatgloi’r arian hwn yw trwy roi rhoddion ar-lein trwy wefan y Rhoi Mawr www.thebiggive.org.uk rhwng 12pm ddydd Mawrth 29 Tachwedd tan 12pm ddydd Gwener 2 Rhagfyr. Felly, am bob punt a roddir, caiff £1 arall ei ddatgloi o’r pot addewid gan ddyblu’r rhodd wreiddiol.
Ond nid arian fydd yr unig beth a gaiff ei ddatgloi drwy roddion ar-lein; Mae cerddorion enwog Ensemble Cymru, yn cynnwys y delynores frenhinol Anne Denholm, wedi recordio negeseuon a pherfformiadau personol arbennig gaiff eu rhyddhau ar dudalennau Facebook a Twitter yr elusen wrth i dargedau’r rhoddion gael eu cyrraedd.
Yn ogystal â cherddoriaeth ar-lein, bydd Ensemble Cymru hefyd yn cynnal sesiwn galw heibio yn:
- Venue Cymru yn Llandudno ddydd Mawrth 29 Tachwedd 11:30am – 1pm
- Dydd Mercher 30 Tachwedd, 10:30am -12pm yn Pontio ym Mangor
Bydd safleoedd cyfrannu wedi eu sefydlu lle gall cefnogwyr roi ar-lein ynghyd â cherddoriaeth gan gerddorion Ensemble Cymru.
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, wrth sôn am eu cynlluniau at y dyfodol:
“Yn ystod y 15 mlynedd ddiwethaf rydym wedi cael ein calonogi bob amser gan haelioni’r cyhoedd. O ganlyniad i hyn, mae degau o filoedd o bobl o bob oed yng Nghymru wedi gallu mwynhau perfformiadau byw o gerddoriaeth ysbrydoledig iawn. Rydym eisiau mynd â phethau ymhellach yn y 15 mlynedd nesaf gyda’r bwriad o ddatgloi’r gerddoriaeth hon i gannoedd o filoedd eraill o bobl o bob oed ym mhob rhan o Gymru, pwy bynnag a lle bynnag y bônt, boed mewn cymuned, canolfan siopa, capel, neuadd ysgol neu neuadd gyngherddau. Ar ran pob un ohonom, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am beth bynnag y gallant ei roi i’n helpu wrth i ni ddechrau’r dasg o wireddu’r freuddwyd hon.”
Os gallwch gefnogi ymgyrch Rhoi Mawr Ensemble Cymru, ewch i ein tudalen ‘Big Give’ i gael rhagor o wybodaeth www.ensemble.cymru neu cysylltwch ag Angharad Hywel, Swyddog Datblygu Ensemble Cymru ar 01248 719 503 neu anfonwch e-bost at angharad@ensemble.co.uk