Fel rhan o Raglen Gyfnewid Diwylliannol Ensemble Cymru mae Ensemble Cymru wedi cael ei wahodd i berfformio ar ddiwrnod olaf Pencampwriaeth Gymreig yr Alpau yn Champéry yn Canton Valais (Wallis) yn y Swistir.
Byddwn ni’n perfformio yn ddigwyddiad terfynol y gystadleuaeth ym mhresenoldeb Dirprwy Bennaeth Cenhadaeth a Conswl Cyffredinol Prydain yn y Swistir, Richard Ridout MBE.
Pennawd y llun: Sara Lian Owen, Peryn Clement-Evans and Anne Denholm (photo credit Timothy Ellis)
Bydd y rhaglen yn cynnwys ystod eang o gerddoriaeth o Gymru gan gynnwys Cerddoriaeth Grace Williams 40 mlynedd ers ei marwolaeth.
Mae Cymru a Valais yn rhannu hanes Celtaidd a tharddiad yn yr enw Wales a Valais (Wallis).
Perfformwyr:
Anne Denholm –Telyn (ein prif delynores newydd a’r delynores swyddogol i EUB Tywysog Cymru)
Sara Lian Owen – Soprano (yn wreiddiol o Fangor yn y Gogledd Cymru)
Peryn Clement-Evans – Clarinét
Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru a’r clarinetydd fydd ar y daith:
“Roedd yn gyffrous i dderbyn gwahoddiad i Pencampwriaeth Gymreig yr Aplau ac rwy’n edrych ymlaen at wneud cyfeillion newydd yn canton Valais yn y Swistir. Gwnaethom ni dderbyn gwahoddiad gan Ray Pritchard, Cymro sy’n byw yn y Swistir ac rydyn ni’n dra ddiolchgar iddo fo a’r gymuned yn Champéry am drefnu a chefnogi ein hymweliad”