Mae Ensemble Cymru, pencerddorion cerddoriaeth siambr, yn mynd ar eu taith gyntaf yn 2017 – a byddant yn cynnal cyngherddau ar draws Cymru.
Y cerddorion arobryn yn cynnwys y feiolinydd Florence Cooke, y pianydd Richard Ormrod a chyfarwyddwr artistig a phrif glarinetydd Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, fydd y triawd ar gyfer y daith ym mis Chwefror fydd yn cynnwys rhaglen chwaethus o gerddoriaeth siambr.
Bydd gwaith Mozart, un o gyfansoddwyr cerddoriaeth glasurol mwyaf toreithiog a dylanwadol, sef ei Sonata yn Bb fwyaf, yn cael ei chwarae yn ystod cyngherddau Ensemble Cymru ym mis Chwefror. Bydd y triawd siambr hefyd yn perfformio cyfres llawn egni a ysgrifenwyd gan gyfansoddwr Ffrengig hynod wreiddiol o’r ugeinfed ganrif, Darius Milhaud, a darn gan Béla Bartók, Contrasts, a ysbrydolwyd gan gerddoriaeth werin dwyrain Ewrop.
Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru a’r clarinetydd fydd ar y daith:
“Rydym i gyd ar ben ein digon ar ôl ein hymgyrch Rhoi Mawr ym mis Rhagfyr, a lwyddodd i godi £12,000. Ar ran Ensemble Cymru, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu haelioni. Mae hyn wedi rhoi hwb sylweddol i ni cyn ein taith o amgylch Cymru ym mis Chwefror. Rwy’n edrych ymlaen at chwarae darn a ofynnodd y clarinetydd jazz enwog Benny Goodman i’w ffrind Béla Bartók ei gyfansoddi. Ceir llawer o draddodiadau a dawnsfeydd gwerin o Hwngari a Romania a bydd rhaid i Florence, ein feiolinydd, ail-diwnio dau linyn ar ei ffidil yn ystod y gerddoriaeth er mwyn gallu creu sain werin gyffrous iawn o ddwyrain Ewrop!”
Mae tocynnau ar werth mewn lleoliadau ar draws Cymru yn cynnwys Venue Cymru, Llandudno, Capel Gad yng Nghilcain ger yr Wyddgrug, Pontio ym Mangor, Galeri yng Nghaernarfon, Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli a Chanolfan Ucheldre Caergybi, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a Chapter Arts yng Nghaerdydd. Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld rhestr lawn o’r lleoliadau a dyddiadau ac amseroedd y cyngherddau. Fe’ch cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw.