Blog gan Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru.
“Ar ôl dwy flynedd o siarad am sut gall Ensemble Cymru weithio gyda cherddorion a chyfansoddwyr o Tsieina, mae’n falch gennyf ddweud ein bod yn awr yn cymryd ein cam pendant cyntaf tuag at wireddu hyn…
Gan ddechrau ar 18 Chwefror, bydd Ensemble Cymru yn rhan o genhadaeth fasnachu a diwylliannol Llywodraeth Cymru i Tsieina am wythnos. Rydym yn ymuno â chymysgedd amrywiol o gydweithwyr o BBC NOW, Hijinx Theatre, National Theatre of Wales a Theatr Genedlaethol Cymru ynghyd â chymysgedd diddorol o ddehonglwyr ffurfiau celfyddydol yn cynnwys darlunydd, arlunydd ymysg eraill.
Mae’r Ensemble eisoes wedi cael llwyddiant yn datblygu cysylltiadau rhyngwladol trwy’r rhaglen gyfnewid ddiwylliannol ryngwladol gyda Swistir dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ein bwriad yw ymestyn y model hwn o ymweliadau cyfnewid a pherfformiadau i Tsieina. Rydym yn gobeithio creu cyfleoedd i berfformwyr a chyfansoddwyr o Gymru yn Tsieina ac wrth wneud hynny, creu diddordeb mewn treftadaeth gerddorol gyfoethog a diwylliant cyfoes Cymru ymhlith pobl yn Tsieina.
Wrth baratoi ar gyfer y daith hon, rwyf wedi synnu gymaint o gysylltiadau sydd eisoes yn bodoli rhwng Shanghai, Hong Kong a Chymru. Mae llawer o fyfyrwyr o Brifysgol Normal Shanghai yn astudio yn Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Bangor lle mae swyddfa Ensemble Cymru wedi ei lleoli. Rwyf wedi gwerthfawrogi cefnogaeth y Sefydliad Confucius ym Mangor, yn ogystal â chymorth y bobl yn Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen sydd wedi ein rhoi mewn cysylltiad â rhai o’u cyfeillion yn Hong Kong. Hefyd mae gan lawer o’n cefnogwyr ffrindiau a theulu yn Hong Kong a Shanghai ac mae brwdfrydedd pawb wedi bod yn wych.
Rhywbeth bach i gloi – byddwn yn ymweld â Shanghai gyntaf, sydd â phoblogaeth o bron i 7 gwaith yn fwy na Chymru ac un rhan o dair o’r DU. Hong Kong fydd yr ail le a’r un olaf fyddwn yn mynd iddo, sydd â dwywaith gymaint o boblogaeth na Chymru … mae hynny’n llawer o bobl i ddweud ‘Ni Hao’ wrthynt! “