Y Dynion tu ôl y Gerddoriaeth – Blog Emma

Gyda diolch i Emma Lancastle am y blog canlynol.

Yn ystod eu Taith Chwefror, mae Ensemble Cymru yn cyflwyno rhaglen amrywiol o gerddoriaeth siambr i Glarinét, Ffidl a Phiano. Mae rhai o’r darnau gorau o gerddoriaeth glasurol wedi cael eu creu yn ystod cyfnodau o drallod a chaledi, ac mae’r rhaglen a gyflwynir gan y cwmni o Fangor yn rhoi sylw i weithiau rhai enwau cyfarwydd, a rhai cyfansoddwyr llai adnabyddus, tuag at ddiwedd eu hoes.  Wrth i’r cyngerdd yng Nghaerdydd agosáu, rydym yn edrych ar y caledi a wynebodd y cyfansoddwyr yn ystod eu bywydau, a pha deithiau a wnaethant ar draws Ewrop ac America ar yr adeg y crëwyd y gweithiau.

Schumann – Märchenerzählungen

Mae’r rhaglen yn agor gyda Märchenerzählungen (neu Straeon Tylwyth Teg yn Gymraeg) o waith Schumann.  Cwblhawyd y set o sgorau poced hyn yn 1853, dim ond tair blynedd cyn ei farwolaeth.  Erbyn yr adeg yr oedd Schumann yn cyfansoddi’r ‘Straeon Tylwyth Teg’ roedd yn cael trafferthion cynyddol gyda’i symptomau salwch meddwl, ac roedd wedi colli ei swydd fel arweinydd a chyfarwyddwr cerdd yn Dusseldorf.

Roedd Schumann bob amser wedi ceisio cysur a dihangfa oddi wrth ei salwch drwy grwydro i’r byd ffantasïol, er nad oedd ei hoffter o glymu llenyddiaeth wrth ei gerddoriaeth siambr mor ddiniwed ag y tybir efallai. Hyd yn oed 20 mlynedd ynghynt, roedd Schumann wedi dechrau defnyddio’r alter-egos ‘Florestan’ ac ‘Eusebius’, er mwyn disgrifio dau hanner cyferbyniol ei bersonoliaeth, gan ddefnyddio cymeriadau ffug i gyfleu ei hwyliau ansad. Erbyn diwedd ei oes yn 1856 roedd iechyd meddwl Schumann wedi dirywio’n sylweddol, ac roedd yn pryderu am ei fywyd ac am ddiogelwch y rhai a garai.  Dywedir ei fod yn honni clywed caneuon yr angylion a lleisiau yn hwyr y nos ac efallai bod yna reswm pam fod yna gyn lleied o gliwiau ynghylch y wir ysbrydoliaeth tu ôl i’w ‘Straeon Tylwyth Teg’.

Poulenc – Sonata i Glarinét a Phiano yn B feddalnod

Tra bo gwaith Schumann yn cyfleu helbulon mewnol ei broblemau iechyd meddwl, roedd trafferthion Poulenc o natur fwy gwleidyddol.  Ac yntau’n aelod o Les Six (grŵp o gyfansoddwyr Ffrengig), gorfodwyd Poulenc a llawer o’i gyfoeswyr i aros ym Mharis drwy gydol y cyfnod y meddiannwyd Ffrainc gan y Natsiaid yn yr Ail Ryfel Byd. I Poulenc, fel dyn hoyw, roedd hwn yn gyfnod pan oedd ei fywyd mewn perygl gwirioneddol. Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, fe wnaeth trafferthion a rwystrodd gyhoeddi ei opera, ynghyd â salwch difrifol ei bartner, achosi i Poulenc gael chwalfa nerfol yn y diwedd yn 1954. Flwyddyn yn ddiweddarach bu ei bartner farw.

Fodd bynnag, daeth Poulenc dros ei brofedigaeth i ganfod cariad drachefn, ac aeth i grwydro America lle rhoddwyd amlygrwydd i’w weithiau lleisiol a’i operâu diweddaraf.  Cafodd Sonata Poulenc i Glarinét a Phiano yn B feddalnod ei chyfansoddi mewn cyfnod cymharol hapusach.  Comisiynwyd y gwaith gan y clarinetydd adnabyddus, Benny Goodman. Ond, wedi iddo lwyddo i ddod drwy gyfnod y Natsiaid yn Ffrainc, sawl her alwedigaethol a llawer o brofedigaethau personol, yn drychinebus iawn bu farw Poulenc yn sydyn o drawiad ar y galon cyn i’r sonata gael ei pherfformio gyntaf yn 1963.

Mozart – Sonata i Feiolin a Phiano yn B-Feddalnod Fwyaf K.375

Er bod Mozart yn adnabyddus yn bennaf am ei ddoniau rhyfeddol, ni fu ei fywyd yn brin o drafferthion chwaith.  Yn ddwy ar hugain oed teithiodd Mozart i Mannheim a Paris yn 1788 mewn ymgais aflwyddiannus i gael gwaith, a thra oedd ym Mharis bu’n rhaid iddo wystlo ei bethau gwerthfawr er mwyn cynnal ei hun. Yn ystod y cyfnod hwn aeth mam Mozart yn wael a bu farw. Credir bod Mozart yn ystyried ei hun yn gyfrifol am farwolaeth ei fam, yn rhannol oherwydd y diffyg arian a achosodd oedi cyn i feddyg gael ei alw ati.

O’i anfodd cymerodd Mozart waith a drefnwyd gan ei dad iddo yn Salzburg yn 1779, ac yno y credir iddo gyfansoddi’r Sonata yn Bb fwyaf K.378, er na chafodd y “Sonatas pour le Clavecin ou Pianoforte avec L’accompagnement d’un Violon” eu cyhoeddi mewn gwirionedd tan 1781. Roedd Mozart wedi symud i Vienna erbyn hynny, lle cafodd ei gyflogi gan yr Archesgob Colloredo.

Roedd gan Mozart erbyn hynny freuddwydion mawreddog am ddod yn gyfaill i’r ymerawdwr, ac fe wireddwyd hynny’n fuan. Felly, dechreuodd y cyfnod hwnnw o’i fywyd proffesiynol pryd roedd yn gwledda ym mhalas yr Archesgob gyda digonedd o weision yn gweini arno a mwynhau cwmni penaethiaid y gymdeithas yno.

Milhaud – Cyfres i’r Feiolin, Clarinét a Phiano, Op.157b

Fel Poulenc roedd Darius Milhaud yn aelod o Les Six, er yn wahanol i’w gyfaill, Milhaud, nid oedd ganddo ddewis ond gadael Ffrainc yn ystod goresgyniad y Natsiaid oherwydd ei gefndir Iddewig.  Roedd eisoes wedi teithio’n helaeth i America ac ymfudodd Milhaud a’i deulu i’r Unol Daleithiau yn ystod y rhyfel, a threuliodd weddill ei oes yn rhannu swyddi dysgu yn California ac ym Mharis.

Yn 1936, pan gyfansoddwyd y Gyfres i’r Feiolin, Clarinét a Phiano, Op.157b, roedd Milhaud eisoes yn dioddef oddi wrth grydcymalau gwynegol.  Er i’w salwch waethygu’n raddol, gan ei gaethiwo i gadair olwyn yn y diwedd, daliodd Milhaud ati i deithio a chyfansoddi’n helaeth, gan gynhyrchu swm enfawr o waith a sicrhaodd iddo ei le fel un o gyfansoddwyr mwyaf cynhyrchiol yr ugeinfed ganrif.

Mae Ensemble Cymru yn perfformio yn Chapter ddydd Mercher 15 Chwefror am 7pm.

Pris tocynnau yw £10, £8 i ostyngiadau, a £3 i fyfyrwyr. I archebu tocynnau ffoniwch 029 2030 4400 neu ewch i www.chapter.org