Mae’r grŵp cerddoriaeth siambr, Ensemble Cymru, ynghyd â Gwasanaeth Cerddoriaeth Ceredigion, wedi lansio ‘Academi Siambr’ newydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth lle bydd cerddorion ifanc lleol yn cael cyfle i gymryd rhan mewn dosbarthiadau meistri gan rai o berfformwyr cerddoriaeth glasurol amlycaf y wlad.
Cynhaliwyd dosbarth meistr cyntaf yr Academi Siambr ddydd Sul 12 Chwefror gyda disgyblion o Ysgol Penglais ac Ysgol Penweddig. Cymerodd un ffliwtydd, dau feiolinydd, dau chwaraewr fiola a sielydd ran yn y gweithdy a arweiniwyd gan y feiolinydd profiadol Florence Cooke, sydd wedi bod yn aelod o Ensemble Cymru ers cryn amser, a’r ffliwtydd Georgiana Hughes. I ddilyn cafwyd perfformiad cyhoeddus yn y Ganolfan Gelfyddydau.
Capsiwn y llun: (chwith i’r dde) Emyr Penry Dance, Nansi Dingle, Ana Barriga, Irene Barriga, Jasmine Shao and Dalia El Abbadi.
Fel un o gyn ddisgyblion Gwasanaeth Cerdd Ceredigion ac sydd bellach yn fyfyriwr ffliwt yn astudio yn y Birmingham Conservatoire, mae gan Georgiana Hughes gysylltiad personol cryf â’r project. Mae wedi chwarae rhan allweddol mewn dod â’r Academi Siambr i Aberystwyth, fel yr eglura Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru;
“Daeth Georgiana Hughes atom beth amser yn ôl gyda’r syniad o ddod a’n Academi Cerddoriaeth Siambr i Aberystwyth, ei thref enedigol. Rydym yn hynod ddiolchgar iddi am y gwaith gwych y mae wedi’i wneud yn dod â cherddorion ifanc, Ensemble Cymru a Gwasanaeth Cerdd rhagorol Ceredigion at ei gilydd fel hyn. Mae’n sicr y bydd yn ddiwrnod gwirioneddol gyffrous.”
Fel cerddor ifanc ei hun, mae Georgiana yn hynod frwd ynghylch creu cyfleoedd i gerddorion ifanc eraill o’r ardal, fel y dywedodd,
“Ar ôl tyfu i fyny yng Ngheredigion, dwi’n teimlo’n hynod gyffrous wrth gydlynu’r project yma gyda’r Gwasanaeth Cerdd ac Ensemble Cymru. Rwyf wedi bod yn gweithio gydag Ensemble Cymru o’r blaen ac mae’n wych gallu rhoi llwyfan iddynt yng Nghanolbarth Cymru, hyrwyddo cerddoriaeth siambr mewn ardaloedd gwledig, a rhoi cyfle i gerddorion ifanc lleol yng Ngheredigion weithio a pherfformio gyda cherddorion proffesiynol. Gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o lawer o brojectau cydweithredol rhwng y Gwasanaeth Cerdd ac Ensemble Cymru gan feithrin a datblygu’r Academi Siambr.”
Ar fater yr Academi Siambr a’i gydweithio ag Ensemble Cymru, meddai Geraint Evans, Rheolwr Gwasanaeth Cerdd Ceredigion: Mae’n bleser mawr gennym gymryd rhan yn y project yma gydag Ensemble Cymru. Mae’r profiad wedi rhoi cyfle i’r disgyblion dan sylw weithio gyda cherddorion proffesiynol. Rydym yn gobeithio bod hyn yn ddechrau perthynas waith gadarn.”
Gallwch weld ffilm fer yn dogfennu Academi Siambr cyntaf Aberystwyth isod.