Delynores, Anne Denholm yn sgwrsio am gerddoriaeth newydd ac Ensemble Cymru cyn taith mis Mai

Rydym yn sgwrsio â Phrif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol bresennol, Anne Denholm, yn ystod y paratoadau ar gyfer taith mis Mai, i ddarganfod sut mae gweithio gydag Ensemble Cymru yn helpu i hyrwyddo rhywbeth sy’n bwysig iawn iddi. 

© Julian Dodd

Mae’r Delynores Frenhinol Anne Denholm yn llefarydd cadarn dros yr hyn sydd gan y delyn i’w gynnig. Mewn cydweithrediad â Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, mae Anne wedi helpu i lunio’r rhaglenni ar gyfer teithiau mis Tachwedd a mis Mai Ensemble Cymru.

“Mae unrhyw gyfle i gynnwys y delyn mewn cerddoriaeth siambr yn gyfle gwerthfawr i ddangos amlochredd a grym anhygoel yr offeryn”, meddai Anne pan fuom yn sgwrsio gyda hi ym mis Hydref. 

Bach to Baby © Laura Ruiz

“Ein nod oedd dangos amrywiaeth o gyfuniadau offerynnol yn cynnwys y delyn, a chreu rhaglenni sy’n amrywiol, yn adloniadol ac weithiau’n heriol !”

Yn ystod Taith yr Hydref 2016, roedd y rhaglen eclectig yn cynnwys gwaith gan y cyfansoddwr diweddar o Gymru, Mervyn Burtch. Mae’r thema o gyfuno gweithiau mwy traddodiadol gyda darnau newydd a chyffrous yn parhau yn y Daith ym mis Mai, sy’n cynnwys cyfansoddiadau gan Sally Beamish, a’r cyfansoddwr o Gymru, Hilary Tann.

Mae’r rhaglen anarferol yn brawf o ddiddordeb angerddol arall; Mae Anne yn hynod o frwd ynghylch cerddoriaeth gyfoes.

Dechreuodd y diddordeb hwn mewn cerddoriaeth newydd pan oeddwn tua phedair ar ddeg oed,” meddai Anne. “Gofynnwyd i mi recordio unawd newydd i’r delyn fel rhan o sefydliad Cerddorion Ifanc Dyfed.

Roeddwn wrth fy modd a’r her a’r boddhad o berfformio rhywbeth cwbl newydd ac anghyfarwydd.

Mae Ensemble Cymru wedi bod yn gweithio’n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i ddangos offeryn mor amlochrog yw’r delyn, ac mae wedi gweithio hefyd gyda Eliza Netzer yn ystod taith mis Mai 2016. Ond nid yw’r cwmni sydd a’i bencadlys ym Mangor wedi esgeuluso nod pwysig arall; cynnwys cyfansoddiadau mwy newydd yn eu rhaglenni.

© Tom Porteous

Mae’r Delynores Frenhinol yn rhannu’r ymroddiad hwn i gerddoriaeth glasurol fodern. Er bod Anne wedi ymddiddori mewn cerddoriaeth gyfoes er yn ifanc, mae’n dweud bod a wnelo ei diddordeb fwy â bod yn agored i syniadau newydd.

Byddwn i’n dweud mai cariad at arbrofi sydd wrth wraidd y peth, fwy na thebyg!” meddai dan chwerthin. “Mae hyn yn arwain yn aml at gyfuniadau anarferol o offerynnau, o brojectau comisiwn penodol, i’m gwaith cydweithredol gyda’r Hermes Experiment, i fand ‘fusion’ Indiaidd!’

Mae cyfraniad Anne at yr Hermes Experiment yn un agwedd yn unig ar ei gyrfa amrywiol, ond mae’n brawf o’i hymrwymiad i ymchwilio i syniadau newydd. Ensemble unigryw sy’n cynnwys Bas ddwbl, llais Soprano, Clarinét a Thelyn yw’r Hermes Experiment. Mae’r ensemble yn comisiynu gwaith newydd gan gyfansoddwyr yn rheolaidd, yn ogystal â gweithio ar eu trefniadau eu hun. Mae’r Hermes Experiment yn gweithio hefyd gyda Nonclassical, project a grëwyd gan Gabriel Prokofiev, sydd fwyaf enwog am ei Goncerto ar gyfer Byrddau Tro a Cherddorfa.

Mae’n amlwg bod Anne yn teimlo bod yr arbrofi hwn yn hynod o bwysig i gerddoriaeth gelf y Gorllewin yn gyffredinol. Mae yna enwau adnabyddus ym myd cerddoriaeth glasurol, ac mae llawer o gynulleidfaoedd yn teimlo’n gyfforddus gyda gwaith Mozart neu Debussy. Eto mae cyfoeth o repertoire o’r 20fed a’r 21ain ganrif sydd wedi ei ddiystyru ac mae’r Delynores Frenhinol yn awyddus i’w rannu gyda gwrandawyr.

“Cerddoriaeth ein cyfnod ni yw cerddoriaeth gyfoes ac felly mae’n berthnasol iawn i ni,” meddai Anne, ac mae’n wir y dylai fod gennym fwy yn gyffredin gyda cherddoriaeth gyfoes na chyda gweithiau a ysgrifennwyd 300 mlynedd yn ôl.  “Po fwyaf mae cerddoriaeth glasurol a’i byd yn cael arbrofi, tyfu a datblygu, ehangaf i gyd fydd y cynulleidfaoedd a fydd yn gallu uniaethu â hi.”

Wrth i gerddorion a chynulleidfaoedd fel ei gilydd arbrofi ac ymwneud â cherddoriaeth newydd, mae’n fwy tebygol y daw’n “gerddoriaeth ein cyfnod ni” go iawn. Eto i gyd gall rhai gwrandawyr fod ychydig yn hwyrfrydig i fentro i fyd cerddoriaeth gyfoes.

© Martin Wess

Mae Anne yn egluro: “Fel gydag unrhyw beth arall, gall newid fod yn anghyfarwydd ac anodd, a gall gymryd amser i dueddiadau newydd ddod yn gyfarwydd ac ‘o fewn cyrraedd'”.

Ond mae dod i gysylltiad â cherddoriaeth anghyfarwydd, nid yn unig yn ehangu ein gallu i addasu i gysyniadau newydd. Mae’n cael effaith ddiwylliannol bwysig iawn hefyd.

“Credaf ei bod yn bwysig i gerddoriaeth glasurol a’i chynulleidfaoedd fod yn agored i seiniau a phrofiadau newydd, os ydym am feithrin creadigrwydd y genhedlaeth gyfoes,” meddai Anne yn bendant.

Felly mae gan gerddorion gyfrifoldeb deublyg tuag at gerddoriaeth gyfoes. Mae’n hanfodol bwysig bod cerddorion yn denu cynulleidfaoedd i wrando ar gerddoriaeth gyfoes, ymddiddori ynddi, ac yn bwysicaf, deall cerddoriaeth a all fod yn llai cyfarwydd iddynt.  Ac yn ei thro, gellir meithrin dawn greadigol yn llwyddiannus.

Mae Ensemble Cymru bob amser wedi cymryd y dasg o gyflwyno cerddoriaeth newydd o ddifri, ac mae Anne yn cytuno bod tywys cynulleidfaoedd trwy brofiad cerddorol newydd yn ddyletswydd enfawr.

“Credaf fod y ffordd rydym yn cyflwyno cerddoriaeth newydd yn allweddol ac mae’n gyfrifoldeb dwys arnom fel cyfansoddwyr a pherfformwyr – ac ni ddylai cynulleidfaoedd deimlo ar goll yn ystod y profiadau cerddorol newydd hyn.”

Wrth gwrs, nid yw cyngerdd cerddoriaeth glasurol fodern at ddant pawb, a gall rhai gwrandawyr fod ychydig yn ansicr ynghylch plymio i’r profiad cyfoes.

Mae Anne yn pwysleisio bod cydbwysedd yn gwbl hanfodol os yw cerddorion am ledaenu eu cariad at gerddoriaeth newydd.

“Rwy’n mwynhau chwarae’r holl ystod o repertoire i’r delyn, ac fel perfformiwr rhaid bod yn ymwybodol bob amser o’r cyd-destun a’r gynulleidfa yn eich perfformiadau”, meddai, cyn ychwanegu: “Yr allwedd yw bod yn amryddawn ac yn amrywiol!”

Ac felly, trwy gydweithio gydag Ensemble Cymru, mae Anne wedi creu rhaglen amrywiol fydd yn apelio at gynulleidfa eang. Trwy blethu cerddoriaeth glasurol fodern, ochr yn ochr â gwaith gan bobl fel Mozart neu Vivaldi, mae Anne yn parhau i gyflwyno cyfansoddiadau cyfoes i gynulleidfaoedd ym mhob man.

Fel mae Anne yn dweud, yn Nhaith mis Mai, y mae “rhywbeth i bawb!” go iawn.

Ewch i ein tudalen digwyddiadau am ddyddiadau taith Ensemble Cymru ym mis Mai.