Cyngerdd olaf y tymor Ensemble Cymru yn dathlu cerddoriaeth siambr o Gymru a thu hwnt

Bydd Ensemble Cymru yn cloi eu cyfres cyngherddau 2016-17 gyda’u taith drwy Gymru ym mis Mai. Gan arddangos y gerddoriaeth siambr orau o Gymru a ledled y byd, gan gynnwys cerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann, a phedwarawd ffliwt enwog Mozart, ni all unrhyw un sy’n caru cerddoriaeth fethu’r daith hon!

Bydd Anne Denholm, prif delynores yr Ensemble sydd newydd ei phenodi, ac sy’n delynores frenhinol ar hyn o bryd, yn y

muno â’r prif ffliwtydd Jonathan Rimmer a’r fiolydd Lucy Nolan, i fynd â ni drwy atgofion o’r byd naturiol gyda ‘Between Earth and Sea’ Sally Beamish, a ‘From the Song of Amergin’ gan y gyfansoddwraig o Gymru, Hilary Tann.  Bydd y triawd Debussyaidd hwn hefyd yn dod â thelynegiaeth fyfyriol ac ingol ‘Elegiac Trio’ Arnold Bax i ni.  Bydd y feiolinydd Elenid Owen, gyda Heather Bills ar y sielo, yn ymuno â’r ensemble i berfformio darn gwefreiddiol gan Mozart, sef y Pedwarawd Ffliwt Rhif 1 yn D fwyaf fel rhan o gyngherddau mis Mai.

Telynores, Anne Denholm. Llun gan Timothy Ellis.

Wrth siarad cyn y daith, dywedodd delynores Anne Denholm:

“Taith Ensemble Cymru yn mis Mai fydd fy ail daith cenedlaethol gyda’r grwp ers cael fy apwyntio yn Brif Delynores yr Ensemble ym mis Hydref 2016. Hyd yn hyn mae fy nghwaith gyda’r grwp wedi bod yn ysbrydioledig a ffurfiannol, ac rydyn ni wedi cynllunio rhaglen amrywiol ac atyniadol ar gyfer ein cynulleidfaoedd ym mis Mai. Er mae un o’r cyfuniadau mwyaf poblogaidd ar gyfer y delyn yng ngherddoriaeth siambr ydy’r triawd o ffliwt, feiola a thelyn, mae ein rhaglen ni yn dangos amrywiaeth o berspectifau o’r cyfuniad amryddawn yma. Rydw i’n edrych ymlaen i ymarfer a pherfformio tair gwaith canolog sydd yn dangos synau amrywiol y delyn ym myd cerddoriaeth siambr Prydeinig o’r 20ed ganrif ymlaen.”

Mae 2016-17 wedi bod yn dymor hynod o lwyddiannus i’r grŵp cerddoriaeth siambr o ogledd Cymru, sydd wedi gweld y nifer fwyf o gynulleidfa drwy gydol y gyfres a ddechreuodd fis Hydref diwethaf. Mae hi hefyd wedi bod yn flwyddyn mae’r Ensemble wedi bod yn hedfan y faner dros gerddoriaeth siambr o Gymru ledled y byd, gyda pherfformiadau yn y Swistir a Tsieina, wrth i’r grŵp ddatblygu ei weithgareddau cyfnewid diwylliannol ymhellach.

Mae taith Mai Ensemble Cymru yn cychwyn ar 3 Mai yng Nghanolfan Ucheldre yng Nghaergybi, a bydd yn galw mewn lleoliadau ar draws Gymru, yn cynnwys Venue Cymru, Llandudno (4 a 6 Mai) Galeri, Caernarfon (5 Mai) Pontio, Bangor (7 Mai) Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli (8 Mai) a Chapel Gad yng Nghilcain ger Yr Wyddgrug (9 Mai) ynghyd â’r Neuadd Fawr, Abertawe (13 Mai) a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth (14 Mai). Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld rhestr lawn o’r lleoliadau a dyddiadau ac amseroedd y cyngherddau. Fe’ch cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw.