I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, yr wythnos ddiwethaf.
Cymerwch olwg ar yr uchafbwyntiau o’n dathliad yng Nghaerdydd, gan gynnwys oriel lluniau a fideo.
Cafwyd perfformiadau gan gerddorion Ensemble Cymru gan gynnwys Anne Denholm (prif delynores), Lucy Nolan (fiola), Elenid Owen (feiolin), Sara Lian Owen (soprano), Jonathan Rimmer (prif ffliwtydd) ac yn ogystal, y clarinetydd a Chyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans.
Fe hoffwn estyn diolch arbennig iawn i Sian Gwenllian AC am noddi’r noson.
[metaslider id=5879]
I’r rhai nad oedd yn gallu ymuno, bydd yna amrwy o gyfleoedd i ddathlu gydag Ensemble Cymru yn ystod y flwyddyn nesaf. Beth am fod yn ffrind a bod yn gyntaf i glywed am ein digwyddiadau arbennig?