Big Give – y wybodaeth ddiweddaraf

Diolch yn fawr i bawb a gefnogodd ein hymgyrch ‘Big Give’. Dyma sut mae eich haelioni wedi helpu gwaith Ensemble Cymru hyd yn hyn.

Mae 2017 yn flwyddyn arwyddocaol i Ensemble Cymru (EC) wrth i ni ddathlu 15 mlynedd o hyrwyddo cerddoriaeth siambr. Mae’r adroddiad canlynol yn amlygu cyngherddau a gweithgareddau a gynhaliwyd rhwng Ionawr a Mai 2017 gan gynnwys dwy daith ledled Cymru, ymrwymiadau rhyngwladol, gwaith gydag ysgolion cynradd a cherddorion ifanc, perfformiadau mewn ysbytai, ochr yn ochr a chydweithio gyda sefydliadau newydd megis Alzheimer’s Society Cymru.

Trosolwg o Deithiau Tymor: 1-15 Chwefror a 3–14 Mai 2017

Ym mis Chwefror a mis Mai 2017 perfformiodd EC cyfanswm o 18 prif gyngerdd dymor mewn 9 lleoliad gwahanol ar draws Cymru, o Ganolfan Ucheldre yng Nghaergybi i ganolfan Chapter yng Nghaerdydd. Ers ei sefydliad, amcan EC yw i ddod â pherfformiadau Cerddoriaeth Siambr o’r safon uchaf i ganol cymunedau Cymru. Mae EC yn parhau i adeiladu ar ei gylchdaith cenedlaethol, gan ychwanegu perfformiadau yn Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth i’r teithiau tymor, ac ar yr 13 Mai 2017, ‘roeddem yn gyffroes i berfformio am y tro cyntaf yn Neuadd Fawr, Abertawe.

Mae cydweithio yn rhan hanfodol o broses creadigol EC. Ar gyfer y taith Mai, gweithiodd Anne Denholm (Prif delynores EC) ar y cyd gyda’r Cyfarwyddwr Artistig a phrif clarinetydd Peryn Clement-Evans i guradu’r rhaglen. Yn ôl Denholm: “Ein nod oedd dangos amrywiaeth o gyfuniadau offerynnol yn cynnwys y delyn, a chreu rhaglenni sy’n amrywiol, yn adloniadol ac weithiau’n heriol!”

Mae hyn yn arwydd o agwedd arbrofol ac arloesol EC tuag at raglennu. Trwy cyfuno gweithiau tra phoblogaidd o’r canon traddodiadol gyda cherddoriaeth glasurol gyfoes, ceisia EC cyflwyno gwaith newydd a chyfansoddiadau cyfoes, yn enwedig gan gyfansoddwyr Cymreig, i gynulleidfaoedd, ac wrth gwneud hyn, parhau i wthio ffiniau ffurf y gelfyddyd yng Nghymru. Am cipolwg ar y broses greadigol hon, gallwch ddarllen cyfweliad gydag Anne Denholm yma.

Rhyngwladol – Swistir a Tsieina

Mae EC wedi bod yn gweithio ar adeiladu cysylltiadau rhyngwladol er mwyn hyrwyddo treftadaeth gerddorol a diwylliannol Cymru ar lwyfan y byd am sawl blwyddyn; ac yn 2017 gwelwyd datblygiadau cyffrous. Yn dilyn cysylltiadau eisoes yn y Swistir, gwahoddwyd y grŵp siambr i berfformio ar ddiwrnod terfynol Pencampwriaethau Alpine Cymru (yr 11eg o’i fath) yn Champéry ar 27 Ionawr 2017.

Y mis dilynol, cymerodd Ensemble Cymru ran mewn cenhadaeth (wythnos o hyd) fasnachu a diwylliant Llywodraeth Cymru i Tsieina, ble ymunwyd â chymysgedd amrywiol o gydweithwyr o BBC NOW, Hijinx Theatre, National Theatre of Wales a Theatr Genedlaethol Cymru.

Uchelgais EC yw parhau i adeiladu model o gyfnewid diwylliannol rhyngwladol, ac i greu cyfleoedd i berfformwyr a chyfansoddwyr yng Nghymru ar draws y byd a chreu diddordeb mewn treftadaeth gerddorol gyfoethog Cymru a’i diwylliant gyfoes.

 

Gwaith cymunedol ac allgymorth

Mae Ensemble Cymru yn perfformio tu allan i’r neuadd gyngerdd er mwyn cymryd cerddoriaeth siambr yn uniongyrchol at unigolion na fyddent efallai yn gallu ei phrofi fel arall. Ar 4 Chwefror 2017 a 6 mis Mai 2017, yn ystod y prif teithiau tymor, perfformiodd cerddorion Ensemble Cymru i gleifion a’u teuluoedd yn Ysbyty Llandudno.

Fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia, ymunodd Ensemble Cymru â Alzheimer’s Society Cymru mewn perfformiad agored yn rhad ac am ddim cyn y prif gyngerdd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yn ogystal â cherddoriaeth, ‘roedd cyfle i siarad gyda chynrychiolwyr o’r Gymdeithas a derbyn gwybodaeth am Alzheimers, Dementia a salwch cysylltiedig.

Cred EC bod cerddoriaeth yn gallu chwarae rhan lliniarol pwerus yng ngofal y rhai sy’n dioddef o salwch. Rydym yn awyddus i ddatblygu ein gwaith gyda ysbytai, cartrefi gofal, yn ogystal â chydweithio pellach gyda Alzheimer’s Society Cymru.

Academi Siambr Ensemble Cymru a Gwaith Addysg

Ochr yn ochr â digwyddiadau cymunedol ac allgymorth, mae Ensemble Cymru yn gweithio’n agos gydag ysgolion cynradd er mwyn cymryd cerddoriaeth siambr i’r ystafell dosbarth a chynorthwyo darpariaeth addysg cerddoriaeth yng Nghymru. Fel rhan o’n teithiau Chwefror a Mai, fu cerddorion Ensemble Cymru yn gweithio gyda disgyblion Ysgol y Garnedd (Bangor), Ysgol Pendalar (Caernarfon) ac Ysgol Hafod Lon (Penrhyndeudraeth).

Yn ogystal, lawnsiwyd yr Academi Siambr gyntaf yn Aberystwyth. Mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerdd Ceredigion, cymerodd disgyblion o Ysgol Penglais a Phenweddig rhan mewn gweithdy gyda’r feiolinydd arobryn ac aelod hirsefydlog Ensemble Cymru – Florence Cooke, a’r ffliwtydd Georgiana Hughes. Dilynwyd y gweithdy gan berfformiad cyhoeddus yng Nghanolfan y Celfyddydau cyn prif gyngherdd taith Chwefror EC ar 12 Chwefror.

Sefydlwyd eisoes Academi Siambr yng Nghaernarfon ac mi fydd EC yn weithio gyda Music Abertawe i ddod ag Academi Siambr i’r Neuadd Fawr am y tro cyntaf yn ystod Tymor 2017-18.

Nod yr Academi Siambr yw meithrin ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion siambr ac ymarferwyr cerddoriaeth yng Nghymru gan roi’r cyfle i weithio ochr yn ochr â rhai o gerddorion siambr blaenllaw’r wlad.

Gallwch weld ffilm fer yn dogfennu Academi Siambr cyntaf Aberystwyth isod.

Dathliad Penblwydd 15 oed

I lansio blwyddyn penblwydd arbennig iawn i Ensemble Cymru, fe wnaeth y pencampwyr cerddoriaeth siambr ddathlu gyda digwyddiad yn adeilad hanesyddol y Pierhead, ym Mae Caerdydd, ar 19 Mai 2017 (ceir uchafbwyntiau o’r noson yma).

Roedd y noswaith yn gyfle i ddathlu cyflawniadau’r grŵp ers ei sefydliad yn 2001 ac hefyd cyflwyno gweledigaeth EC ar gyfer dyfodol Siambr Cerddoriaeth yng Nghymru. Mae 2017 wedi bod yn blwyddyn sylweddol hyd yn hyn, fel y mae’r adroddiad uchod yn dangos, mae EC wedi gweld twf yn niferoedd gynulleidfa a lleoliadau cyngerdd, cysylltiadau rhyngwladol, parhad gwaith addysg a phrosiectau yn y gymuned yn ogystal â chydweithrediadau a phartneriaethau newydd. Hefyd, mae EC wedi gweld datblygiadau sefydliadol mewn marchnata a chodi arian er mwyn ceisio creu fframwaith ariannol cadarn ac ymestyn cyrhaeddiad.

Diolch yn fawr iawn!

Mae’r arian a godwyd trwy’r Her Nadolig Big Give 2016 – cyfanswm o £ 11,225 – wedi bod yn hanfodol i lwyddiant EC dros y misoedd diwethaf.  Oddi wrth bawb yn Ensemble Cymru, cerddorion a staff, hoffem ddiolch i’r Big Give, Cronfa Arian Cyfatebol Cymru a’n holl roddwyr, am eu cefnogaeth barhaus a’u haelioni.