Mae Llyfryn y Tymor Newydd Wedi Cyrraedd!

Mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod llyfryn tymor newydd Ensemble Cymru wedi cyrraedd!

Mae’r tymor eleni’n un arbennig iawn gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 15 oed. Felly, i gydnabod y garreg filltir hon, bydd y tymor dathlu hwn yn cynnwys cyngherddau estynedig (90 munud, yn cynnwys egwyl) gyda’n ensembles mwyaf hyd yma!  Mae’r cyngherddau hwy hyn yn ein galluogi i gyflwyno rhai perlau cudd i chi o repertoire cerddoriaeth siambr ac rydym yn credu y byddwch yn eu mwynhau’n fawr iawn.

Bydd Ensemble Cymru hefyd yn dechrau ar ddau gynllun cydweithredu cyffrous y tymor hwn, y ddau ohonynt yn ymwneud ag opera – gweler llyfryn y tymor newydd am fanylion llawn am hyn, yn ogystal â’r holl gyngherddau yn nhymor 2017-18.  (Rydym yn argymell eich bod yn edrych ar hyn mewn ‘sgrin lawn’)

Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn cyngerdd yn fuan.

P.S. Cynigir hyd at 20% oddi ar brisiau tocynnau Ensemble Cymru yn Nhachwedd mewn rhai mannau os gwnewch eu prynu erbyn 13 Hydref 2017 – cadwch olwg am symbol yr Aderyn Cynnar.