Tudur Owen o BBC Radio Cymru i wynebu ‘Her Cerddoriaeth Siambr’ Ensemble Cymru

Fel rhan o raglen arbennig i Radio Cymru, bydd y digrifwr a’r cyflwynydd, Tudur Owen, yn wynebu un o heriau mwyaf ei yrfa pan fydd yn ymuno â chwe cherddor proffesiynol Ensemble Cymru mewn perfformiad byw yn Pontio Bangor ar 12 Tachwedd.

Tudur Owen

Bydd ‘Siwrnai Siambr Tudur Owen’ i’w darlledu ar Radio Cymru ar y dyddiadau canlynol:

  • Rhan 1: Dydd Llun 11 Rhagfyr, 12:30pm
  • Rhan 2: Dydd Llun 18 Rhagfyr, 12:30pm

Caiff y ddwy raglen eu hailddarlledu ar Ŵyl San Steffan (26 Rhagfyr) rhwng 8pm a 9pm.

Ewch i wefan Radio Cymru i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni.

Fe wnaeth Ensemble Cymru, grŵp cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, herio’r digrifwr a’r cyflwynydd Cymraeg adnabyddus i ddysgu darn o gerddoriaeth siambr ac yna’i berfformio’n fyw o flaen cynulleidfa.  Fel un sydd bob amser yn mwynhau her, roedd Tudur Owen yn barod iawn i dderbyn ac yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf mae wedi cael cwrs carlam mewn cerddoriaeth siambr gan Dewi Ellis Jones, prif offerynnwr taro Ensemble Cymru.

Gan ddisgrifio ei hun fel “drymiwr amatur gydag ‘A’ fawr iawn”, mae Tudur yn cyfaddef ei fod wedi camu’n rhy bell y tro yma efallai, wrth iddo baratoi at ei ymddangosiad cyntaf fel offerynnwr taro cerddoriaeth siambr.

“Fe ges fy synnu ei fod yn llawer mwy cymhleth nag yr oeddwn wedi’i ddychmygu oherwydd roedd yn faes newydd i mi.  Dwi’n gyfarwydd â barau amseriad 4 / 4 neu 3 / 4, ond yma roedd y barau i gyd o wahanol hyd, ac roeddwn yn meddwl bod rhywun yn gwneud hwyl am fy mhen.” eglurodd.

Yn ffodus, roedd Dewi Ellis Jones o’r Ensemble wrth law i helpu Tudur gael pethau i drefn, “Unwaith y dywedodd Dewi wrtha i ei bod yr un mor bwysig i wrando ar y gerddoriaeth ag ydyw i gyfri’r barau, fe syrthiodd y darnau i gyd i’w lle wedyn.” 

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans,  ei fod wedi darganfod rhai pethau’n debyg rhwng cerddoriaeth siambr a chomedi wrth weithio gyda Tudur. Fel yr eglurodd, “Yr hyn sydd wedi bod yn ddiddorol yw canfod y tir cyffredin rhwng y ddwy ffurf ar gelfyddyd.  Mae’r ddwy’n meithrin perthynas agos â’r gynulleidfa ac mae seibio ac amseru yn rhan allweddol o’r ddwy hefyd.

“Mae wedi bod yn wych cael Tudur i mewn fel rhan o’r Ensemble a’i weld yn dod â cherddoriaeth siambr i sylw ei gynulleidfa – mae’n golygu gobeithio ein bod yn ymestyn gafael cerddoriaeth siambr ymhellach a galluogi mwy o bobl i’w mwynhau.”

Cyfaddefodd Tudur Owen, sy’n gyflwynydd ar Radio Cymru, nad oedd yn gwybod fawr ddim am gerddoriaeth siambr cyn dechrau ar y project hwn gydag Ensemble Cymru, sy’n rhan o raglen ar gyfer Radio Cymru sydd i’w darlledu yn Rhagfyr.  Fodd bynnag, mae’r chwiw cerddoriaeth siambr wedi cydio ynddo ac mae’n awyddus nawr i fwy o bobl ei phrofi, “Fel gydag unrhyw ffurf ar adloniant, os ydych yn gwerthfawrogi cerddoriaeth dda o ansawdd uchel, yna bydd gan gerddoriaeth siambr rywbeth at eich dant yn sicr,” meddai.  

Ar hyn o bryd mae Ensemble Cymru yn perfformio mewn gwahanol fannau ledled Cymru ar ei daith i ddathlu ei ben-blwydd yn 15 oed.  Bydd Tudur Owen yn dod yn aelod er anrhydedd o’r Ensemble am un diwrnod yn unig pan fydd yn ymuno â’r cerddorion mewn cyngerdd preliwd yn Pontio, Bangor ddydd Sul 12 Tachwedd am 2:15pm cyn prif gyngerdd Ensemble Cymru am 3pm.  Ceir mynediad am ddim i’r cyngerdd preliwd gyda thocyn i’r prif gyngerdd Ensemble Cymru.   Ewch i ein tudalen digywddiadau i gael mwy o wybodaeth neu cysylltwch â www.pontio.co.uk 01248 38 28 28 i archebu tocynnau.