Mae prif ensemble cerddoriaeth siambr Cymru, Ensemble Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 15 gyda thaith genedlaethol am 11 diwrnod ar draws Cymru ym mis Tachwedd gyda chyngherddau estynedig arbennig yn dathlu perlau cudd o repertoire cerddoriaeth siambr.
Gyda’r ensemble mwyaf a welwyd yn ddiweddar, mae’r tymor newydd yn cyflwyno rhaglen gyfoethog o gerddoriaeth fydd yn cynnwys y delyn, ffliwt, clarinét, piano, feiolín, fiola a’r sielo.
Bydd y delyn yn rhan ganolog eto o’r daith ym mis Tachwedd gyda’r tymor 2017-18 yn benllanw project dwy flynedd ar gerddoriaeth siambr i’r delyn. Mae Prif Delynores Ensemble Cymru, a’r Delynores Frenhinol, Anne Deholm, wedi curadu’r tymor ar y cyd â’r Cyfarwyddwr
Artistig, Peryn Clement-Evans. Meddai Anne, wrth siarad am yr hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni yn y tymor newydd:
“Ein nod oedd dangos amrywiaeth o gyfuniadau offerynnol yn cynnwys y delyn, a chreu rhaglenni sy’n amrywiol, yn adloniadol ac weithiau’n heriol!”
“Mae unrhyw gyfle i gynnwys y delyn mewn cerddoriaeth siambr yn gyfle gwerthfawr i ddangos amlochredd a grym anhygoel yr offeryn”, meddai Anne.
Byddwn yn dathlu cyfansoddwyr Cymru hefyd yn ystod y daith hon i nodi 15 mlynedd, fel rhan o ymrwymiad yr Ensemble i hyrwyddo doniau Cymru. Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans, cyn mynd ar y daith ym mis Tachwedd:
“Rydym yn dechrau’r 15 mlynedd nesaf gydag un o’r blynyddoedd mwyaf cyffrous a phrysur y mae Ensemble Cymru erioed wedi ei chael! Byddwn yn ymweld â lleoliadau ar draws Cymru ym mis Tachwedd cyn ymuno ag OPRA Cymru yn y perfformiad cyntaf o opera Gymraeg newydd sbon. Rydym hefyd newydd lansio Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Genedlaethol yng Nghymru a gynhelir ym mis Medi 2018.”
Meddai Peryn, gan edrych ymlaen at y daith ym mis Tachwedd: “Mae ein taith o gerddoriaeth siambr yn cynnwys saith o’n cerddorion yn perfformio cerddoriaeth ramantus Mahler a cherddoriaeth galonogol gan y cyfansoddwr o wlad Belg, Jongen. Mae’r delyn a’r piano yn rhan amlwg o gerddoriaeth y Weriniaeth Tsiec ac rydym yn falch iawn ein bod yn perfformio cerddoriaeth gan ddau o gyfansoddwyr Cymru. Mae Claire Roberts o Brifysgol Bangor yn gyfansoddwr newydd a chreadigol gydag arddull unigryw ac arloesol sy’n gwrthgyferbynnu â cherddoriaeth fwy myfyriol John Metcalf, y cyfansoddwr o Gymru sydd wedi ennill bri rhyngwladol.”
Mae taith Tachwedd Ensemble Cymru yn cychwyn ar 2 Tachwedd yn Chapter, Caerdydd, a bydd yn galw mewn lleoliadau ar draws Gymru, yn cynnwys Y Neuadd Fawr, Abertawe (4 Tachwedd), Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth (5 Tachwedd), Neuadd Dwyfor, Pwllheli (6 Tachwedd) Capel Gad, Cilcain (7 Tachwedd) Venue Cymru, Llandudno (9, 10, 11 Tachwedd), Pontio, Bangor (12 Tachwedd), Galeri, Caernarfon (13 Tachwedd), Canolfan Ucheldre, Caergybi (15 Tachwedd). Ewch i ein tudalen digwyddiadau i weld rhestr lawn o’r lleoliadau a dyddiadau ac amseroedd y cyngherddau. Fe’ch cynghorir i archebu tocyn ymlaen llaw.
Cymerwch olwg ar fideo Rhagolwg y Tymor isod i gael blas o’r gerddoriaeth cyn y daith mis Tachwedd.