Rhoi amlygrwydd i gyfansoddwyr byw o Gymru

Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig.   Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni.

Bydd cerddoriaeth fuddugol y tri chyfansoddwr a ddewiswyd, Gareth Churchill, Rhian Samuel a Guto Pryderi Puw, yn cael ei pherfformio gan Ensemble Cymru yn ystod ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’.  Gyda’r cyfansoddwyr yn bresennol ym mhob un o’r digwyddiadau hanner awr, caiff cynulleidfaoedd ledled Cymru gyfle unigryw i gyfarfod â’r cyfansoddwyr a chlywed eu cerddoriaeth.

Isod nodir dyddiad pob digwyddiad a’r cyfansoddwr dan sylw –

Digwyddiadau Goleuni ar Gyfansoddwr

4 Mai 6pm, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd. Goleuni ar Gyfansoddwr:  cerddoriaeth i’r cello, bas dwbl a thelyn wedi’i chyfansoddi a’i chyflwyno gan GARETH CHURCHILL.

6 Mai, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, 2pm. Goleuni ar Gyfansoddwr:  cerddoriaeth i’r clarinét, telyn a ffliwt wedi’i chyfansoddi a’i chyflwyno gan RHIAN SAMUEL.

13 Mai, Pontio, Bangor, 2pm . Goleuni ar Gyfansoddwr: cerddoriaeth i’r ffliwt, clarinét a thelyn wedi’i chyfansoddi a’i chyflwyno gan GUTO PRYDERI PUW.

 

 

 

 

(chwith i’r dde) Gareth Churchill; Rhian Samuel; Guto Pryderi Puw

Mae gweithio gyda Chyfansoddwyr Cymru i ddod â gwaith cyfansoddwyr Cymreig cyfoes i’r amlwg yn rhywbeth sy’n amlwg iawn at galon Ensemble Cymru, fel yr eglura ei Gyfarwyddwr Artistig, Peryn Clement-Evans:

“Cenhadaeth Ensemble Cymru fel sefydliad yw codi proffil treftadaeth a diwylliant cyfoes Cymru drwy gerddoriaeth.  Rydym wrth ein bodd cael gweithio gyda Chyfansoddwyr Cymru yn ein perfformiadau i ddod â chyfansoddwyr a chynulleidfaoedd at ei gilydd i ddathlu cerddoriaeth a ysgrifennwyd gan bobl sy’n byw a gweithio yng Nghymru heddiw.”

Meddai Paul Corfield Godfrey, Ysgrifennydd Cyfansoddwyr Cymru:

“Gobeithir y bydd y gyfres hon o gyngherddau mewn cydweithrediad ag Ensemble Cymru yn rhoi cyfleoedd i gyfansoddwyr Cymreig  ddod â’u gweithiau i sylw cynulleidfa ehangach a dangos cyfoeth a dyfnder y doniau sydd yng Nghymru.  Bydd y bwriad i barhau gyda’r rhaglenni hyn dros y blynyddoedd i ddod hefyd yn ymestyn ystod y cyfansoddwyr y teflir goleuni ar eu gwaith.  Trwy ymwneud â chynulleidfaoedd sydd eisoes yn dod i gyngherddau Ensemble Cymru, rhoddir amlygrwydd cyhoeddus cynyddol i gyfansoddwyr sy’n byw a gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd a chyfle i wrando ar eu cerddoriaeth cyn cyngherddau’r Ensemble.  Caiff y rhaglenni eu recordio a bydd y cyfansoddwyr yn bresennol yn y cyngherddau lle perfformir eu gwaith, gan eu galluogi i ymwneud â’r perfformwyr a’r gynulleidfa.  Bydd Ensemble Cymru’n elwa hefyd o’u profiad gyda gwahanol feysydd o gerddoriaeth gyfoes a bydd yn helaethu eu repertoire.”