Ensemble Cymru yn mynd ar eu taith fwyaf uchelgeisiol hyd yma o gerddoriaeth siambr

I gloi Tymor eu Pen-blwydd, mae ensemble cerddoriaeth siambr mwyaf blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn mynd ar eu taith gyngerdd fwyaf uchelgeisiol hyd yma a fydd yn cynnwys naw o gerddorion rhagorol a cherddoriaeth gan Handel hyd at Debussy, yn ogystal â gwaith comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymro, Gareth Glyn.

Mae Ensemble Cymru’n dathlu ei ben-blwydd yn 15 oed y tymor yma, ac ar ôl y gyntaf yn y gyfres hon fis Tachwedd diwethaf, bydd y diweddglo sydd yn yr arfaeth ar gyfer mis Mai yn cyflwyno cerddoriaeth siambr sy’n wirioneddol amrywiol o ran amser a lle.

O Gymru, bydd yr Ensemble yn perfformio gweithiau gan ddau o gyfansoddwyr cyfoes; bydd yna gerddoriaeth gan y gyfansoddwraig o Aberdyfi, Rhian Samuel, a bydd premiere byd o ddarn newydd sbon, I’r Pedwar Gwynt / To the Four Winds, a gyfansoddwyd yn arbennig ar gyfer y daith gan y cyfansoddwr o Fôn, Gareth Glyn.

Flautist Alena Walentin will join Ensemble Cymru on tour this May for the first time

Yn unol ag ethos Ensemble Cymru o gyflwyno’r gerddoriaeth Siambr orau o Gymru a gweddill y byd, bydd yna gerddoriaeth gan rai o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd cerddoriaeth glasurol  fel rhan o’r daith gyngerdd. Caiff Dawnsiau ar gyfer y Delyn a Phedwarawd Llinynnol gan Debussy, a ystyrir yn ddarn sy’n arddangos rhagoriaeth y delyn, eu perfformio yn ogystal â darn hynod nad yw’n cael ei berfformio’n aml, Nonet, gan y cyfansoddwr o Sais, Arnold Bax. Daw’r cyngerdd i ben gyda Choncerto Handel i’r Delyn a bydd angen holl ddoniau offerynnol y naw cerddor sydd yn yr ensemble ar gyfer hwnnw.

Yn ogystal â’r brif daith, mae tri o gyfansoddwyr wedi’u dewis er mwyn arddangos eu cerddoriaeth mewn digwyddiadau arbennig cyn y cyngherddau eu hunain yn ystod y daith ym mis Mai fel rhan o fenter ar y cyd â Chyfansoddwyr Cymru.

Bydd darnau gan y cyfansoddwyr sydd wedi eu dethol ill tri, sef Gareth Churchill, Rhian Samuel a Guto Pryderi Puw, yn cael eu perfformio gan Ensemble Cymru mewn ‘digwyddiad ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ a gynhelir cyn y prif gyngherddau mewn lleoliadau dethol. Bydd y cyfansoddwyr yn bresennol ym mhob un o’r digwyddiadau 30 munud, ac mae’n gyfle gwych i gynulleidfaoedd ledled Cymru gwrdd â’r cyfansoddwyr a chlywed eu cerddoriaeth. Gweler y dyddiadau ar gyfer y digwyddiadau ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ yma.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans hyn am y daith:

“Rydym wrth ein boddau yn cau’r tymor hwn yn ailddatgan ein cenhadaeth i hyrwyddo cerddoriaeth nwyfus o Gymru o’r gorffennol a’r presennol. Bydd ein prif offerynwyr yn rhoi perfformiadau cyntaf o gerddoriaeth gan Gareth Glyn, yn ailddarganfod cerddoriaeth y cyfansoddwr o Sais o’r 20fed ganrif, Arnold Bax, ochr yn ochr â Handel, Debussy a Rhian Samuel.  Mae hefyd y digwyddiadau ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau dethol. Pwy allai ddychmygu’r ffordd fwy cyffrous a hyfryd o ddod â blwyddyn ben-blwydd arbennig yr Ensemble i ben.”

Bydd Ensemble Cymru’n perfformio mewn lleoliadau ar draws Cymru ar y dyddiadau canlynol:

4 Mai, 7pm (cyngerdd preliwd 6pm) Chapter Caerdydd
6 Mai, 3pm (cyngerdd preliwd 2pm) Aberystwyth Arts Centre
7 Mai, 10:30am, Neuadd Dwyfor, Pwllheli
8 Mai, 7pm, Capel Gad Cilcain
10 / 11 / 12 Mai, 10am. Venue Cymru, Llandudno.
12 Mai, 7:30pm, Canolfan Ucheldre, Caergybi
13 Mai, 3pm (cyngerdd preliwd 2pm) Pontio, Bangor

Darganfod mwy ar ein tudalen digwyddiadau.