Dewch i gwrdd â’r cyfansoddwyr y bydd eu gwaith yn cael ei berfformio yn y cyngherddau ‘Goleuni ar Gyfansoddwyr’ yn ystod taith Ensemble Cymru fis Mai. Sgroliwch i lawr i weld cyfweliadau fideo gyda’r cyfansoddwyr Gareth Churchill, Rhian Samuel a Guto Pryderi Puw.
Y gwanwyn yma mae Ensemble Cymru a Chyfansoddwyr Cymru wedi ymuno i roi amlygrwydd i waith tri chyfansoddwr Cymreig. Dewiswyd tri chyfansoddwr y perfformir eu gwaith mewn digwyddiadau arbennig cyn cyngherddau yn ystod taith genedlaethol Ensemble Cymru fis Mai eleni. Darganfod mwy am y prosiect yma.
Gareth Churchill
Ganwyd Gareth Churchill i deulu o Gymru ym 1980, ond cafodd ei fagu ar wastadeddau Gwlad yr Haf. Astudiodd yn y Coleg Cerdd Brenhinol yn Llundain gyda Rhian Samuel ac yng Nghaerdydd gydag Anthony Powers; fe gafodd PhD mewn cyfansoddi yn 2007.
Caiff cerddoriaeth Gareth Churchill ei pherfformio mewn cyngerdd ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ ddydd Gwener 4 Mai yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, 6pm. Bydd Ensemble Cymru yn perfformio tri darn o’i waith i unawdwyr ar gyfer y soddgrwth, y bâs dwbl a’r delyn a’r cyfansoddwr, Gareth Churchill, ei hun yn cyflwyno. Mwy o wybodaeth yn y fan hon.
Fe welwch chi fwy o fideos o Gareth ar ein tudalen Vimeo yma.
Rhian Samuel
Mae Rhian Samuel (g. Aberdâr, Cymru, 1944) wedi cyfansoddi mwy na 110 o ddarnau cyhoeddedig. Ar ôl 16 mlynedd yn yr Unol Daleithiau, dychwelodd i’r Deyrnas Gyfunol, a bu’n dysgu ym Mhrifysgol Reading, ac yna ym Mhrifysgol y Ddinas, Llundain (lle mae hi bellach yn Athro Emeritws) a Choleg Magdalen, Rhydychen.
Caiff cerddoriaeth Rhian Samuel ei pherfformio mewn cyngerdd ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ ar Dydd Sul 6 Mai yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth, 2pm. Darganfod mwy yma.
Fe welwch chi fwy o fideos o Rhian Samuel yn siarad am ei bywyd a’i cherddoriaeth yma.
Guto Pryderi Puw
Astudiodd Guto Pryderi Puw Gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor gyda’r cyfansoddwyr John Pickard, Pwyll ap Siôn ac Andrew Lewis gan dderbyn PhD mewn Cyfnansoddi yn 2002. Daeth yn aelod llawn amser o’r staff yn 2006 gan ddarlithio mewn Cyfansoddi a Cherddoriaeth Gyfoes cyn cael ei benodi’n Bennaeth Cyfansoddi yn 2015.
Caiff cerddoriaeth Guto Puw ei pherfformio mewn cyngerdd ‘Goleuni ar Gyfansoddwr’ ar Dydd Sul 13 Mai, 2pm ym Pontio, Bangor. Darganfod mwy yma.
Fe welwch chi fwy o fideos o Guto ar ein tudalen Vimeo yma.