Digwyddiad yng Ngogledd Cymru i nodi Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru

Bydd Ensemble Cymru a Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru yn dod ynghyd i ddathlu Diwrnod Cerddoriaeth Siambr Cenedlaethol cyntaf Cymru ddydd Gwener 28 Medi 2018.  Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn rhoi amlygrwydd i’r cyfoeth o gerddoriaeth siambr sydd yn y rhanbarth, gyda pherfformiadau byw gan Ensemble Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Clwb Cerddoriaeth Y Rhyl, Canolfan Gerdd William Mathias a NEW Sinfonia.

Anne Denholm, Prif Delynores Ensemble Cymru

Mae’r Bore Cerddoriaeth Siambr, a gynhelir yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, hefyd yn cynnig cyfle unigryw i selogion cerddoriaeth glasurol a siambr ddod i wybod pa ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal ledled Cymru dros y misoedd i ddod.  Bydd cynrychiolwyr o sefydliadau cerdd megis OPRA Cymru, Cerddorfa Symffoni Wrecsam ac Opera Canolbarth Cymru, ynghyd â lleoliadau lleol amlwg yn cynnwys Pontio a Venue Cymru, yn bresennol gyda gwybodaeth am gyngherddau a digwyddiadau cerddoriaeth glasurol a siambr sydd i ddod.

Mary Hofman a Richard Ormrod o Clwb Cerdd Y Rhyl

Meddai Peryn Clement-Evans, Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, wrth egluro pwrpas y bore cerddoriaeth siambr:  “Y Bore Cerddoriaeth Siambr hwn yw’r cyntaf o ddigwyddiadau blynyddol i ddathlu cyfraniad hyrwyddwyr, ensembles, cyfansoddwyr a cherddorion Cymreig i fyd cerddoriaeth siambr.  Dros y pum mlynedd nesaf bydd Ensemble Cymru a’i bartneriaid yn anelu at wneud hwn yn ddigwyddiad cenedlaethol.   Ar ran yr holl sefydliadau, hoffem ddiolch i Ŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru am eu hymrwymiad i’r project hwn.”

Jonathan Guy o NEW Sinfonia

Meddai Ann Atkinson, Cyfarwyddwr Artistig Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru, “Rydym wrth ein bodd fel Gŵyl i fedru cynnal y digwyddiad yma sy’n rhoi cymaint o amlygrwydd i gerddoriaeth siambr yng Nghymru.  Yr eglwys gadeiriol yw’r lleoliad delfrydol i gerddoriaeth siambr a gellir gwirioneddol werthfawrogi mireinder y ffurf yma ar gerddoriaeth glasurol yn ystod y digwyddiad hwn.”

I ddathlu ystod y gerddoriaeth siambr a welir yn yr ardal, bydd cerddorion ifanc o Ganolfan Gerdd William Mathias yn perfformio gyda cherddorion siambr proffesiynol, megis prif delynores Ensemble Cymru, Anne Denholm, sydd hefyd yn Delynores Frenhinol ar hyn o bryd, a Claire Watkins, soprano Opera Cenedlaethol Cymru.  Bydd Clwb Cerdd Y Rhyl hefyd yn lansio eu tymor newydd ‘Beethoven yng Nghymru’ yn y cyngerdd, gyda pherfformiad gan y ddeuawd ffidl a phiano, Mary Hofman a Richard Ormrod.

Cynhelir y Bore Cerddoriaeth Siambr yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ddydd Gwener 28 Medi am 10:30am.  Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim ac nid oes angen tocyn nac archebu lle ymlaen llaw. Am fwy o wybodaeth, ewch i  ein tudalen digwyddiadau yma neu nwimf.com neu ChamberMusic.Wales