Helpwch Ensemble Cymru gyrraedd nod y ‘Big Give’

Mae’r Her Nadolig ‘Big Give’ 2018 wedi CYCHWYN

Dros yr 7 diwrnod nesaf bydd pob rhodd tuag at Ensemble Cymru trwy’r ‘Big Give’ yn cael ei ddyblu gan arian cyfatebol. Fel sefydliad bach, mae pob rhodd, beth bynnag ei faint, yn cael effaith enfawr ar ein gwaith. Ar ran pawb yn Ensemble Cymru, diolch yn fawr iawn.

Dewiswyd Ensemble Cymru o blith miloedd o elusennau eraill i gymryd rhan yn ymgyrch cyllid cyfatebol ar-lein fwyaf y Deyrnas Unedig. Drwy’r ‘Big Give’, os rhoddwch chi roddion i Ensemble Cymru yn ystod cyfnod o 7 diwrnod, caiff y rhoddion eu dyblu. Mae’r elusen cerddoriaeth siambr wedi codi miloedd o bunnau’n llwyddiannus drwy’r Big Give yn ymgyrchoedd y gorffennol, ond eleni mae’r ensemble wedi gosod targed mwy uchelgeisiol fyth.

Big Give 2018 fydd y pedwerydd tro i Ensemble Cymru ymwneud â’r ymgyrch a bydd arian y blynyddoedd a fu’n helpu cyllido amrywiaeth dda o brojectau cerddoriaeth siambr sydd wedi bod o fudd i bobl a phlant ledled Cymru. Fel arall mae’n bosib na fyddai llawer ohonynt wedi cael cyfle i fwynhau cerddoriaeth siambr yn fyw.

Mae Ensemble Cymru eisoes wedi sichrau pot addewid hyd at £9,800 ond yr unig ffordd i ddatgloi’r arian hwnnw yw rhoddion ar-lein trwy wefan y Rhoi Mawr www.thebiggive.org.uk rhwng 12pm ddydd Mawrth 27 Tachwedd tan 12pm y dydd Mawrth canlynol, 4 Rhagfyr. Felly, am bob punt o rodd caiff £1 arall ei datgloi o’r pot addewid gan ddyblu’r rhodd wreiddiol.

Eleni, mae Ensemble Cymru’n anelu at godi’r swm enfawr o £19,600 yn ystod 7 niwrnod yr ymgyrch. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at –

  • Project cydweithredol creadigol gydag ysgol gynradd yn y gogledd
  • Cyrraedd cymunedau a chynulleidfaoedd newydd i gerddoriaeth siambr trwy berfformiadau y tu allan i’r neuadd gyngerdd
  • Cyfleoedd i gerddorion a chyfansoddwyr ifanc weithio yng Nghymru.

Os hoffech chi roi rhodd yn ystod ymgyrch y Rhoi Mawr ond nid ydych yn hyderus ar-lein, ymunwch ag Ensemble Cymru mewn ‘Gorsaf Roddi’ lle bydd aelod o staff Ensemble Cymru wrth law i ddangos i chi sut mae rhoi rhodd. Bydd yr ‘Orsaf Roddi’ ar agor ar y diwrnodau canlynol –

Mae eich rhoddion chi wedi bod yn help o’r mwyaf

2014 Mi wnaeth Ensemble Cymru greu’r recordiad Cymraeg cyntaf erioed o ‘Pedr a’r Blaidd’ Prokofiev, a’r actor mawr ei fri, Rhys Ifans yn llefaru. Cyrhaeddodd y cynhyrchiad o ‘Pedr a’r Blaidd’ dros 15,000 o bobl ar daith genedlaethol a darllediad ar S4C.

2015 Dathliad o gerddoriaeth JS Bach dros benwythnos a digwyddiadau ledled y gogledd gan gynnwys dros 100 o gerddorion proffesiynol, grwpiau cymunedol, cantorion lleol, plant a phobl ifanc yr ardal.

2016 Bu’r Ensemble ar ddwy daith drwy Gymru, ymweliadau tramor, gwaith gyda’r ysgolion lleol a cherddorion ifanc a pherfformiadau mewn ysbytai gan gydweithio â sefydliadau newydd megis Cymdeithas Alzheimer Cymru; nod hyn oll oedd dod â phobl yn nes at Gerddoriaeth Siambr.