Ensemble Cymru yn dychwelyd i Neuadd Dewi Sant gyda champwaith Schubert

Taith Mis Tachwedd

Mae grŵp cerddoriaeth siambr blaenllaw Cymru, Ensemble Cymru, yn dychwelyd i brifddinas Cymru fis Tachwedd i gynnal cyngerdd arbennig yn Neuadd Dewi Sant a fydd yn cynnwys y campwaith na pherfformir yn aml, yr Octet gan Schubert. Byddant hefyd yn perfformio comisiwn newydd sbon gan y cyfansoddwr o Gymru, John Metcalf.

Caiff yr Octet yn F fwyaf gan Schubert ei ystyried yn eang fel un o’r gweithiau gorau o gerddoriaeth siambr. Bydd perfformiad Ensemble Cymru o’r gwaith ym mis Tachwedd yn rhoi cyfle i gefnogwyr cerddoriaeth glasurol yng Nghaerdydd brofi pŵer a harddwch y perl hwn na chaiff ei berfformio’n aml. Bydd y gwaith ar ei newydd wedd gan fod yr Ensemble wedi comisiynu’r cyfansoddwr John Metcalf, sydd wedi ei leoli yn Llanbedr Pont Steffan, i ysgrifennu ymateb modern i’r Octet gan Schubert. Caiff y darn newydd hwn a ysbrydolwyd gan gampwaith Schubert ei berfformio’n gyhoeddus am y tro cyntaf yn y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant.

Y cerddorion fydd yn perfformio yn Neuadd Dewi Sant (o’r chwith i’r dde) Martin Lüdenbach (bas dwbl); Elenid Owen (feiolín); Llinos Elin Owen (basŵn); Dewi Garmon Jones (cyrn Ffrengig); Florence Cooke (feiolín); Oliver Wilson (fiola); Abigail Hayward (sielo); Peryn Clement-Evans (clarinet)

Meddai Cyfarwyddwr Artistig Ensemble Cymru, Peryn Clement-Evans wrth siarad cyn y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant;

“Tua 12 mis yn ôl, eisteddodd John a minnau i lawr i siarad am ei ddarn. Ysbrydolwyd ein syniad yn y lle cyntaf gan gonfensiwn cerddoriaeth glasurol y Tombeau; sef y syniad o deyrnged gyfoes i ffigwr cerddorol mawr o’r gorffennol er enghraifft, y deyrnged gerddorol, Tombeau de Couperin a gyfansoddwyd gan y cyfansoddwr Ffrengig, Maurice Ravel i’r meistr o’r ail ganrif ar bymtheg, François CouperinRoedd John a minnau eisiau cyflwyno i gynulleidfaoedd, teyrnged i Franz Schubert, y cawr ym maes cerddoriaeth glasurol fel ymateb Cymraeg yn cysylltu ein cerddoriaeth yng Nghymru, ein hemynau a’u harmonïau mynegiannol hardd a’n cerddoriaeth werin sy’n gweddu mor dda â cherddoriaeth y meistr hwn. Gyda melodïau swynol  a harmonïau gwych John, rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at rannu’r darn newydd hwn gyda chynulleidfaoedd yng Nghaerdydd.”

Wrth drafod dylanwad Cymru ar y darn newydd, dywedodd y cyfansoddwr John Metcalf ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan y  gân werin Gymraeg, Bugeilio’r Gwenith Gwyn, fel yr eglura: “Y man cychwyn oedd y ffaith bod y gân hardd hon yn coffau tynged drist y ddau gariad  – Ann Maddocks a Wil Hopcyn. Er nad wyf yn dilyn y stori serch drasig hon yn nhrefn y digwyddiadau, rwyf wedi ceisio adlewyrchu ei huchafbwyntiau ac iselfannau, a chaiff y rhain eu mynegi ymhellach yn y defnydd bwriadol o wrthgyferbyniadau yn y gwaith, sef gwrywaidd a benywaidd, cwestiwn ac ateb, y modd mwyaf a lleiaf.”

Ethos Ensemble Cymru yw arddangos cerddoriaeth o Gymru ochr yn ochr â cherddoriaeth siambr orau’r byd, a bydd rhaglen y cyngerdd yn Neuadd Dewi Sant yn berfformiad nodweddiadol gan y grŵp cerddoriaeth siambr sydd bellach yn un ar bymtheg oed.

Cynhelir cyngerdd amser cinio Ensemble Cymru yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd ddydd Mawrth, 20 Tachwedd, am 1pm. Mae tocynnau ar gael o’r swyddfa docynnau ar 029 2087 8444 neu ar-lein yma. I gael rhagor o wybodaeth am y cyngerdd, Gweler ein tudalen digwyddiadau, neu ewch i ein tudalen Facebook.